Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a fu’n rhan o wrthdrawiad gyda sgwter symudedd ar ôl yfed a gyrru wedi pledio'n euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, yfed a gyrru a methu â stopio yn lleoliad gwrthdrawiad.
Tua 11.20 o’r gloch nos Sul, gyrrodd Leighton Panayiotou, 35 oed o Faes yr Haf, Llanelli, ei gerbyd Mazda 6 i mewn i sgwter symudedd ar Stryd Caswell.
Taflwyd yr unigolyn ar y sgwter o'r cerbyd ac fe ddioddefodd anafiadau difrifol. Y mae’r unigolyn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Fodd bynnag, gadawodd Panayiotou y safle, cyn i’r heddlu ddod o hyd ym Mhyllau Ffwrnes tua 2o’r gloch fore ddydd Llun 6 Rhagfyr.
Pan gafodd brawf anadl, darparodd sampl o 65 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, sydd ymhell uwchlaw'r terfyn cyfreithiol o 35.
Yn Llys Ynadon Llanelli ddoe, plediodd Panayiotou yn euog i yfed a gyrru, gan achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a methu â stopio yn lleoliad gwrthdrawiad.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 10 Rhagfyr nesaf.
"Roedd hwn yn wrthdrawiad difrifol, a arweiniodd at y dioddefwr yn dioddef anafiadau cas," meddai Andy Williams, Arolygydd Uned Plismona’r Ffyrdd.
"Mae hyn yn dangos peryglon gyrru dan ddylanwad alcohol. Gallai’r sefyllfa fod wedi bod yn waeth o lawer.
"Peidiwch â gwneud hynny. Gallai hyn fod wedi arwain at deulu’n galaru ar ôl colli rhywun annwyl.
"Mae’r achos wedi dod i ben â chollfarn am yfed a gyrru, yn ogystal â throseddau gyrru difrifol eraill, felly fe fydd nawr yn colli ei drwydded, ac fe allai dreulio'r Nadolig dan glo oherwydd am fod yn fyrbwyll a diystyru’r gyfraith."
Daw hyn wedi i 24 o bobl gael eu harestio ar amheuaeth o gymryd cyffuriau neu yfed a gyrru yn yr wythnos gyntaf ers lansio ymgyrch yn erbyn cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru dros y Nadolig ar 1 Rhagfyr.
O'r 24 a arestiwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae 14 eisoes wedi'u cyhuddo, gydag eraill wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth neu dan ymchwiliad.
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: "Mae'n rhwystredig ein bod ni wedi arestio cymaint o bobl yr wythnos y lansiom ein hymgyrch yn erbyn cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru dros y Nadolig.
"Nid yw cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru’n dderbyniol unrhyw adeg o'r flwyddyn.
"Os ydych chi'n credu bod rhywun yn yfed a gyrru, rhowch wybod i ni fel y gallwn ei dynnu oddi ar y ffordd cyn i rywun gael ei anafu’n ddifrifol neu ei ladd."