Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar heddlu yn y DU yn treialu gwasanaeth newydd i roi gwybod am ymosodiad rhywiol ar-lein
Bellach, mae'r gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer adrodd am drais ac ymosodiadau rhywiol yn fyw ar wefannau’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Swydd Gaerlŷr.
Fe'i crëwyd gan Raglen Ddigidol Cyswllt Cyhoeddus Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac fe’i lansiwyd ddydd Mawrth 30 Tachwedd.
Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am chwe wythnos.
Yn y gorffennol, gofynnwyd i bobl a oedd eisiau adrodd am droseddau rhywiol alw’r heddlu, neu anfon neges destun at 61016 yn achos yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, neu alw 999 mewn argyfwng.
Os nad oes angen cymorth uniongyrchol gan yr heddlu arnynt, bydd pobl – waeth beth fo'u hoedran neu os ydynt eisiau adrodd am y drosedd – yn cael eu cyfeirio ar-lein drwy wefan eu heddlu lleol.
Cânt hyd i gyngor a manylion am elusennau a sefydliadau eraill sy’n medru helpu. Os yw’r unigolyn yn fodlon, bydd yr heddluoedd yn gofyn am fanylion am yr hyn sydd wedi digwydd. Mae dewis i roi gwybod am y drosedd yn ddienw.
Os caiff ei hadrodd yn ddienw, bydd yr heddlu ond yn cysylltu â'r unigolyn hwnnw os credir bod bygythiad uniongyrchol i'w fywyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah White o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: "Gwyddom, yn sgîl ymchwil helaeth, bod nifer o resymau pam nad yw goroeswyr a thystion yn gyfforddus wrth roi gwybod i’r heddlu am droseddau rhywiol.
"Un o'r ffactorau cyffredin o hyd yw'r amharodrwydd i ddarparu manylion personol. Rydym yn deall hyn ac wedi bod yn edrych ar sut y gallwn annog mwy o bobl i adrodd am droseddau rhywiol. Gall hyn ein helpu i atal troseddau pellach a dwyn troseddwyr i gyfiawnder.
"Mae pob adroddiad yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni. Os nad yw pobl yn gyfforddus i gyflwyno’r adroddiad hwnnw, rydym am iddynt wybod sut y gallant gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd angen arnynt.
"Nid yn unig y mae'r gwasanaeth newydd hwn yn arloesol o ran y ffordd y mae wedi’i gynllunio – o lawr gwlad mewn ymgynghoriad â dros 40 sefydliad (gan gynnwys Argyfwng Trais, Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod, a'r Ymddiriedolaeth Goroeswyr) – ac o ran y ffordd mae'n cael ei gyflwyno – ar-lein, lle mae mwy a mwy o bobl yn mynd am gymorth, yn arbennig pobl iau."
Wrth ymweld â gwefannau'r heddluoedd hynny, mae dewisiadau ar gael i bobl adrodd am drosedd rywiol eu hunain, ar ran rhywun arall, neu fel tyst. Gall pobl ddewis adrodd yn Gymraeg neu Saesneg.
Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, daw’n ddull adrodd parhaol, ac fe fydd ar gael i heddluoedd eraill fabwysiadu yn genedlaethol.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd White: "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ei bod hi’n ddiogel i bobl deithio ar ein rheilffyrdd, ac rydym yn gobeithio mai dim ond arf arall yn ein harfdy yn erbyn troseddu rhywiol yw hwn."
Mae gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig achrediad Rhuban Gwyn hefyd, sy’n dangos eu bod wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Yn ddiweddar, llofnododd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig lw, gan annog pob dyn o fewn y sefydliad i addo na fyddant byth yn cyflawni, esgusodi nac yn aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler, Heddlu Dyfed-Powys: "Fel sefydliad sydd ag achrediad Rhuban Gwyn, sydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, mae amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a gwyddwn pa mor drawmatig yw dioddef trosedd rywiol.
"Rydym yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau o'r fath fel y medrwn ymchwilio'n drylwyr i'r troseddau, ac ar yr un pryd, sicrhau bod pob dioddefydd yn cael y cyfle i gael ei gyfeirio ar gyfer cymorth arbenigol. Bydd y gallu i adrodd am drosedd rywiol ar-lein yn cynnig llwybr arall i ddioddefwyr ddod ymlaen fel y medrwn eu helpu nhw a dwyn troseddwyr i gyfiawnder."