Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis, yn nodi ei ddychweliad i’r heddlu â sifft nos Sadwrn yn ôl ar strydoedd Aberystwyth, lle y dechreuodd ei yrfa gyda’r heddlu.
Wedi’i gyhoeddi fel ymgeisydd o ddewis Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, i arwain yr heddlu yn dilyn ymddeoliad Mark Collins yn gynharach eleni, mae Dr Lewis wedi bod yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland ers mis Ebrill 2019.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dechreuodd ei yrfa gyda’r heddlu yn 2000. Yn ystod ei 18 mlynedd gyda Heddlu Dyfed-Powys, gwasanaethodd ym mhob rheng hyd at Ddirprwy Brif Gwnstabl, gan weithio ym mhob un o bedair sir yr ardal heddlu. Y mae hefyd wedi bod yn bennaeth yr adran safonau proffesiynol a chadeirydd Gweithgor Gwrthderfysgaeth Cymru.
Gan siarad cyn iddo ddychwelyd adref, rhannodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis neges â’r sefydliad am ei fwriadau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a phwysigrwydd rhoi llais i’n cymunedau a’r gweithlu mewn llunio’r cynlluniau hynny ar gyfer y dyfodol.
Meddai:
“Ers imi gael fy mhenodi, mae sawl un wedi dweud wrthyf nad oes rheswm pam na all Heddlu Dyfed-Powys fod yn sefydliad a gwasanaeth cyhoeddus neilltuol ar gyfer ein cymunedau – a gwir bob gair, ond mae’r amser wedi dod i stopio mynnu beth allem fod, a gweithio’n galetach i wella’n barhaus. Y cam cyntaf ar gyfer gwneud hyn yw ymgynghori ar flaenoriaethau, a byddaf yn gwneud hyn yn ystod fy 100 diwrnod cyntaf; heb anghofio bod yn rhaid inni weithio hefyd i gyflenwi Cynllun Heddlu a Throseddu CHTh, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’n cymunedau.
“Fy nod wrth dreulio fy sifft gyntaf nôl yn yr heddlu, allan ar y strydoedd gyda’n cydweithwyr ar y rheng flaen, yw ei gweld a’i chlywed fel y mae. Rwyf eisiau’r gwir ac rwyf eisiau her.”
Mae cynllun y Prif Gwnstabl i ymgynghori o fewn y sefydliad a thu allan iddo’n ei dywys i ddiwedd Mawrth, pan fydd yn gweithredu’r darlun mae’n gobeithio cael o gamau nesaf Heddlu Dyfed-Powys a’r cynllun ar gyfer cyflenwi’r weledigaeth.
Ychwanegodd Dr Lewis:
“Unwaith y byddwn wedi cytuno ar flaenoriaethau, byddwn yn eu dilyn yn ddi-baid fel un tîm, gydag eglurder a ffocws. Mae blaenoriaethu rhai pethau’n golygu cyfaddef nad yw pethau eraill, er eu bod yn bwysig, ar dop ein hagenda.
“Fodd bynnag, ni all ymgynghori olygu bod ein gwaith yn dod i stop yn y cyfamser – mae rhythm sefydliad angen i waith fynd ymlaen yn ddi-oed.
“Pan fyddwn ni wedi sefydlu’n blaenoriaethau a phenderfynu sut y byddwn ni’n mesur cynnydd, ni fyddwn yn gosod targedau. Yn hytrach, byddwn ni’n anelu i fod yn well bob dydd. Ni fyddwn yn diffinio’n hunain yn erbyn canlyniadau eraill. Yn lle hynny, byddwn yn anelu i wella’n barhaus.”
Mae rhaglen yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod cyfle ar gael i bawb gyfrannu i’r sgwrs. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu drwy’r cyfryngau lleol ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Twitter @DyfedPowys
Facebook @DPPolice
Instagram @dyfedpowyspolice