Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nos Iau 28 Ionawr, cafodd car ei stopio a’i chwilio ar yr A477 ger Doc Penfro ar amheuaeth o yrru heb yswiriant.
Dywedodd y gyrrwr, Steven Davies, 47 oed, o West Lee, Riverside, Caerdydd, a'i deithiwr, Craig Williams, 37 oed, o Heol Eglwys, Caerau, Caerdydd, eu bod wedi dod am dro yn y car i ddianc o Gaerdydd.
Wrth gael ei holi, roedd Davies yn eithaf nerfus a dechreuodd ysgwyd, a arweiniodd y swyddogion i chwilio’r cerbyd o dan Adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.
Dywedodd Cwnstabl Rob Garland, a stopiodd y car: "Yn nhroedle’r sedd flaen ar ochr y teithiwr, roedd blwch system llywio â lloeren wedi'i lapio mewn tâp lliw arian.
"Ar ôl inni lwyddo i agor y blwch, gwelsom ei fod yn llawn arian papur."
Arestiwyd y ddau ddyn, ac atafaelwyd yr arian o dan y Ddeddf Elw Troseddau.
Yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 26 Tachwedd, gwnaed cais ar gyfer fforffedu'r arian parod a atafaelwyd yn barhaol, sef cyfanswm o £14,070.
Ychwanegodd Cwnstabl Garland: "Cytunodd y llys nad oedd cyfrifon y deiliaid yn gredadwy ac na allent roi cyfrif na thystiolaeth dros y fath swm o arian, felly awdurdododd y llys fforffedu'r arian.
"Rwy'n gobeithio, fel heddlu, y gallwn wneud cais am rywfaint o'r arian hwn i’w ddefnyddio i helpu dioddefwyr troseddau yn ein hardal heddlu a helpu i ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed."
Diolchodd Cwnstabl Garland i dîm troseddau economaidd yr heddlu hefyd, a helpodd i sicrhau bod digon o dystiolaeth i brofi na chafwyd yr arian yn gyfreithlon.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Anthony Evans: "Mae hon yn enghraifft wych o'n swyddogion yn targedu troseddwyr cyfundrefnol ac yn eu hamddifadu o'r asedau a gafwyd drwy droseddu.
"Rydym yn benderfynol o ddal y rhai sy'n targedu’n cymunedau er budd troseddol yn rhagweithiol.
"Ni allwn wneud hyn ar ben ein hun, ac rydym yn annog pobl i adrodd, yn ddienw os oes angen, am y rhai sy'n cyflawni troseddau yn ein cymunedau drwy alw 101, neu drwy alw Taclo'r Tacle’n ddienw ar 0800 555111."