Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Teyrnged gan deulu Lily Sullivan
“Roedd Lily yn ferch garedig a gofalgar a fydd yn cael ei cholli'n arw gan bawb. Mae'r teulu'n ddiolchgar iawn i holl ffrindiau Lily am eu cefnogaeth.”

Diweddariad i’r ymchwiliad
Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Lily Sullivan, 18 oed, ym Mhenfro yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener 17 Rhagfyr, yn parhau heddiw, 19 Rhagfyr 2021.
Mae’r heddlu wedi gorffen chwilio o gwmpas ardal Mill Pond, ac mae’r rhubanau wedi’u cymryd i ffwrdd.
O ganlyniad i’r apêl yn y cyfryngau, mae’r tri unigolyn a oedd yn cerdded gyda’r ci wedi’u hadnabod ac mae’r heddlu wedi siarad gyda nhw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu gyda'r heddlu â gwybodaeth sy'n ein helpu i greu darlun o'r hyn a ddigwyddodd i Lily. Hoffwn ddiolch hefyd i’r gymuned am eu cefnogaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.”
Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu Lily, ac mae ein meddyliau’n parhau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae dyn 31 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth dal yn y ddalfa ar ôl i ynadon roi 36 awr ychwanegol i’r heddlu ei holi.
Mae’r heddlu dal yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu drwy’r Porth Cyhoeddus penodol.
Medrwch gysylltu â’r heddlu drwy alw 101 hefyd. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Dyfynnwch y cyfeirnod DP-20211217-041.