Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Â’r Nadolig yn agosáu, mae swyddogion yng Nghymru’n atgoffa pobl sy’n edrych ymlaen at noson allan i beidio â gyrru ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol.
Heddiw, mae’r pedwar heddlu yng Nghymru – Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru – yn lansio’u hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros y Nadolig, sy’n anelu i ddal pobl sy’n peryglu eu bywydau, a bywydau pobl eraill, drwy yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau.
Dywedodd Clark Jones-John, Uwch-arolygydd gyda Heddlu Dyfed-Powys, mai bwriad yr ymgyrch yw ceisio atal bywydau’n cael eu colli’n ddiangen oherwydd gyrwyr anghyfrifol sy’n torri’r gyfraith.
Ychwanegodd: “Unwaith eto, wrth i’r pandemig barhau, bu hon yn flwyddyn anodd, ac rydym yn deall fod pobl o bosibl eisiau mwynhau, ond rydym yn eu hatgoffa y gall mynd tu ôl i’r llyw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau arwain at ganlyniadau difrifol.
“Nid dim ond am golli trwydded yr ydym yn sôn, sy’n aml yn arwain at golli swydd. Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau‘n arwain at lawer gormod o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol.
“Gwnewch yn siŵr nad chi yw’r un sy’n gyfrifol am ddinistrio teulu’r Nadolig hwn.”
Mae’r ymgyrch fis o hyd hon yn erbyn gyrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau’n cychwyn ddydd Mercher 1 Rhagfyr, pan fydd swyddogion ledled y wlad yn defnyddio tactegau wedi eu harwain gan gudd-wybodaeth a gwybodaeth leol ynghylch mannau problemus i ganfod pobl sy’n yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau adeg y Nadolig.
Dywedodd Mark Travis, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru: “Wrth i dymor y Nadolig gychwyn, rydym yn atgoffa gyrwyr am beryglon a chanlyniadau yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau.
“Bydd swyddogion o’r Unedau Plismona’r Ffyrdd, y Timoedd Bröydd Mwy Diogel a’r Heddlu Gwirfoddol yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Dylai unrhyw un sy’n ystyried yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau wybod y byddwn ni allan yn disgwyl amdanynt.”
Mae’n debygol y bydd rhai partïon swyddfa’n dychwelyd eleni. Gan gadw hynny mewn cof, mae swyddogion yn gofyn i bobl gynllunio ymlaen llaw, meddwl am yr hyn y byddant o bosibl yn ei wneud, a sicrhau eu bod nhw’n trefnu tacsi i fynd â nhw adref.
Maen nhw hefyd yn atgoffa pobl mai dwy uned yw’r terfyn o ran yfed a gyrru, nid dwy ddiod.
“Mae ein neges yn syml; os ydych chi allan ac yn gwybod y byddwch chi’n yfed, sicrhewch fod cynlluniau gyda chi ar gyfer mynd adref yn ddiogel, heb yrru,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Travis.
“Os oes rhaid ichi yrru, fe’ch cynghorwn i beidio ag yfed alcohol o gwbl. Dim alcohol yw’r unig derfyn diogel.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon ynghylch unrhyw un y maent yn credu eu bod yn yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau i gysylltu â’r heddlu ar 101 (neu 999 os ydynt yn achosi perygl uniongyrchol). Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.