Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Lily Sullivan, 18 oed, yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021, yn parhau heddiw.
Mae tâp o amgylch ardal Mill Pond tra bod swyddogion yn ymchwilio, ac mae’n bosibl y bydd y cyhoedd yn gweld mwy o swyddogion heddlu o gwmpas y dref wrth i ymholiadau barhau.
Mae swyddogion sy’n gweithio ar yr ymchwiliad yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd Lily, sy’n gwisgo’r hyn yr oedd hi’n gwisgo ddiwethaf ar noson allan gyda ffrindiau yn ardal Main Street o 7.30 o’r gloch nos Iau 16 Rhagfyr, ac yn ardal Mill Pond o tua 2 o’r gloch fore ddydd Gwener 17 Rhagfyr, yn y llun.
Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i siarad gyda thri unigolyn a gafodd eu gweld yn cerdded gyda chi drwy’r lôn gefn ger siop barbwr Zero's tua 2.40 o’r gloch fore ddydd Gwener, oherwydd mae’n bosibl y gallent fod â gwybodaeth a allai helpu i greu darlun o symudiadau Lily. Disgrifir y ci fel anifail o faint canolig a oedd yn gwisgo rhyw fath o got ar gyfer ci.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones “Hoffwn ddiolch i’r tystion sydd eisoes wedi cysylltu gyda'r heddlu. Mae'n bwysig ein bod ni’n gwybod ble aeth Lily yn ystod y noson ac rwy'n erfyn ar i unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a allai fod wedi gweld Lily i gysylltu â ni.”
Mae dyn 31 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau yn y ddalfa wedi i ynadon roi 36 awr ychwanegol i'r heddlu ei holi.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu drwy’r Porth Cyhoeddus penodol.
Medrwch gysylltu â ni drwy alw 101 hefyd. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Dyfynnwch y cyfeirnod DP-20211217-041.