Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw hyn ar ôl i ddyn a hyrddiodd ymlaen at swyddog heddlu yn dilyn aflonyddwch gael ei ddedfrydu i 120 awr o waith di-dâl.
Roedd swyddogion wedi mynd i leoliad aflonyddwch ar Heol Spilman, Caerfyrddin, nos Sadwrn 11 Rhagfyr, ar ôl derbyn adroddiadau bod 20 o bobl yn ymladd.
Pan gyrhaeddodd swyddogion, roedd y sefyllfa wedi tawelu rhywfaint i wthio yn hytrach nag ymladd.
Roedd swyddogion yn siarad â’r rhai a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad, gan gynnwys Robin Pitt, 40 oed, a oedd yn ymddangos yn ddigynnwrf.
Fodd bynnag, pan oedd swyddogion yn ymdrin â dyn arall, hyrddiodd Pitt ymlaen at un ohonynt o’r tu ôl, â’i fraich allan.
Camodd Cwnstabl Chris Day, a welodd Pitt yn hyrddio ymlaen, i mewn er mwyn atal ymosodiad posibl ar gydweithiwr.
“Camais rhyngddyn nhw,” meddai Cwnstabl Day.
“Gafaelodd ynof i, felly gafaelais ynddo ef, a rhoddodd ei freichiau o gwmpas fy mhen.
“Pan dynnodd fi i’r llawr, bwriais fy mhen-glin chwith ar y llawr, gan ddioddef sawl clwyf a chleisiau.
“Glaniodd ar fy mhen. Clwyfais fy llaw wrth geisio ei wthio i ffwrdd a dioddefais gochni o gwmpas fy llygad chwith.
“Roedd crafiadau ar draws fy wyneb yn dilyn y ffrwgwd, a oedd fel papur gwydrog ar fy wyneb.”
Dywedodd Cwnstabl Day bod yr ymosodiad yn un direswm.
“Yr oedd yn hollol annisgwyl,” meddai. “Pan gyrhaeddais y lleoliad a siarad ag ef, roedd e’n iawn ac yn hollol ddigynnwrf yn fy nghwmni.
“Does neb yn disgwyl dioddef ymosodiad yn y gwaith.
“Fel swyddog heddlu, rydych chi’n disgwyl ymdrin â throseddwyr treisgar, ond ry’n ni ond yn gwneud ein gwaith, ac ni ddylai neb ymosod arnom am ei wneud.”
Cyfaddefodd Pitt i’r ymosodiad yn Llys Ynadon Llanelli ar 13 Rhagfyr.
Rhoddwyd gorchymyn cymunedol o 12 mis iddo, gan gynnwys 120 awr o waith di-dâl, costau o £85, tâl dioddefydd ychwanegol o £95 , ac iawndal o £100.
Y mis hwn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi ymgyrch #GydaNiNidYnEinHerbyn y gwasanaethau brys, sy’n cael ei harwain gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mewn un wythnos y mis hwn, cofnodwyd wyth ymosodiad ar swyddogion heddlu neu barafeddygon yn yr ardal heddlu.
Mae ymosodiadau o’r fath ar gynnydd. Bu 4240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr y gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion heddlu, tân ac ambiwlans, rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd misol cyfartalog o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.
Roedd ymosodiadau’n amrywio o gicio, pwno a phenio, i boeri, taro, cnoi a cham-drin geiriol.
Yn 2018, dyblwyd y ddedfryd uchaf o dan y Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) o 6 mis i 12 mis o garchar, ond cyn hir, gallai troseddwyr wynebu hyd at 2 flynedd o garchar o dan gyfreithiau newydd.
Ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys: