Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddir technoleg ANPR gan heddluoedd ledled y DU – gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys – i gynorthwyo i ddatrys, atal ac aflonyddu ar droseddolrwydd, gan gynnwys grwpiau troseddu trefnedig a therfysgwyr.
Llywodraethir y camerâu platiau rhif gan godau ymarfer llym. Fe’i defnyddir gan amlaf i hysbysu swyddogion am gerbydau sydd wedi’u dwyn neu gerbydau a fu’n gysylltiedig â throsedd, neu eu helpu i ddod o hyd i unigolion coll. Gellir defnyddio’r data maen nhw’n casglu mewn ymchwiliadau hefyd.
Mae’n siŵr eich bod chi wedi gweld sut mae technoleg ANPR yn gweithio drwy raglenni teledu, neu efallai’ch bod chi’n defnyddio gorsaf betrol neu faes parcio sy’n defnyddio’r system i’ch cadw’n ddiogel hyd yn oed. Os na, mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi creu ffilm fer sy’n dangos technoleg ANPR yn cael ei defnyddio er mwyn dod o hyd i unigolyn coll. Gwyliwch yma...
Mae technoleg ANPR yn arf hollbwysig ar gyfer helpu plismona i aros un cam ar y blaen i droseddwyr a diogelu pobl yn well. Mae eich barn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Mae’r arolwg dienw ar agor o 15 Chwefror tan 7 Mawrth, a bydd ond yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau.