Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O’r 4,906 prawf anadl a weinyddwyd, fe wnaeth 181 (3.7%) modurwr fethu’r prawf, neu fethu â darparu sampl, a byddant yn colli eu trwyddedau.
Cynhaliodd swyddogion 469 prawf sweip hefyd, gyda 274 (58.4%) yn methu, gan arwain at 377 arést.
Gwelodd yr ymgyrch genedlaethol, a oedd yn cael ei harwain gan Heddlu Dyfed-Powys, y pedwar heddlu yng Nghymru’n cymryd rhan drwy gydol mis Rhagfyr er mwyn mynd i’r afael ag yfed/cymryd cyffuriau a gyrru.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Arweinydd Strategol Plismona’r Ffyrdd yng Nghymru, “Mae gan yfed/cymryd cyffuriau a gyrru ganlyniadau trychinebus ar gyfer teuluoedd a chymunedau. Mae’r rhan fwyaf o yrwyr yn gyfrifol, felly yr ydym yn diolch i’r gyrwyr hynny sy’n parchu’r gyfraith a diogelwch eraill. Yn anffodus, mae canlyniadau’r ymgyrch hon yn dangos fod nifer o yrwyr yn ymddwyn yn anghyfrifol. Mae eu hymddygiad yn peryglu eraill, ac mae hyn yn annerbyniol.
“Fel gwasanaeth, yr ydym wedi ymrwymo i leihau gwrthdrawiadau angheuol. Byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu’r aelodau hynny o’r gymuned sy’n peryglu eraill. Nid yw’n werth y risg. Gadewch inni wneud ein ffyrdd a’n cymunedau mor ddiogel â phosibl.”
Dywedodd Clark Jones-John, Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys: “Cafodd 181 o yrwyr yng Nghymru Nadolig a Blwyddyn Newydd i gofio am y rhesymau anghywir - ar ôl cael eu harestio gan ein swyddogion am yfed/cymryd cyffuriau a gyrru.
“Mae’n siomedig bod rhai pobl dal yn barod i fentro a mynd tu ôl i’r olwyn dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.”
Heddluoedd |
Nifer y profion anadl a gynhaliwyd 2020 |
Profion anadl cadarnhaol, profion anadl a wrthodwyd neu brofion anadl a fethwyd 2020
|
% |
Nifer y profion anadl a gynhaliwyd 2019 |
Profion anadl cadarnhaol, profion anadl a wrthodwyd neu brofion anadl a fethwyd 2019 |
% |
Dyfed-Powys |
203 |
29 |
14.3% |
328 |
31 |
9.5% |
Gwent |
2299 |
38 |
1.7% |
310 |
21 |
6.8% |
Gogledd Cymru |
992 |
47 |
4.7% |
801 |
53 |
6.6% |
De Cymru |
1412 |
67 |
4.7% |
831 |
47 |
5.7% |
|
|
|
|
|
|
|
Er bod y ffigurau’n dangos gostyngiad yng nghanran y methiannau ar gyfer tri o heddluoedd Cymru, gwelodd Heddlu Dyfed-Powys gynnydd o bron 5%.
Mae peryglon yfed/cymryd cyffuriau a gyrru’n glir i bawb. Yn amlwg, nid yw’r rhai sy’n mentro’n meddwl am deuluoedd y bobl hynny sydd wedi marw wrth law gyrrwr sydd wedi’i effeithio gan alcohol neu gyffuriau.
“Yn aml, ein swyddogion yw’r rhai cyntaf i gyrraedd lleoliad gwrthdrawiadau o’r fath, ac mae rhai o’r pethau maen nhw wedi gweld yn erchyll. Ni ddylai neb weld y fath olygfa na dioddef oherwydd gweithredoedd anghyfrifol ac anghyfreithlon rhywun arall.
Yn y DU, gweinyddwyd 42,613 prawf anadl, gyda 3917 (9.2%) yn methu, neu’n methu â darparu sampl. O’r 4,217 prawf cyffuriau a weinyddwyd, roedd 2813 (66.7%) yn gadarnhaol.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Jones-John: “Mae ein swyddogion yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru dan ddylanwad wybod y byddwn ni o gwmpas yn aros amdanynt – peidiwch â meddwl bod natur wledig ein hardal yn eich amddiffyn, oherwydd nid yw hynny’n wir.
“Byddwn yn parhau i weithredu’n llym yn erbyn y rhai sy’n cymryd y risg diangen hwn ac yn eu dwyn o flaen y llysoedd.”