Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:02 26/02/2021
Yn drist, bu farw’r ddynes a oedd yn reidio’r beic yn y fan a’r lle. Mae ein meddyliau gyda’i theulu ar yr adeg hon, ac rydym wedi sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael iddynt.
Arestiwyd gyrrwr y fan ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Mae ymholiadau i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn parhau, a gofynnir i unrhyw dystion ddod ymlaen.
Os welsoch chi’r digwyddiad ac nid ydych wedi siarad â’r heddlu eto, os allech fod wedi gweld y beiciwr neu’r fan a oedd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad cyn iddo ddigwydd, neu os oes gennych ddarn ffilm camera cerbyd, cysylltwch â’r Uned Gwrthdrawiadau Difrifol cyn gynted â phosibl os gwelwch chi’n dda.
Ar-lein: bit.ly/HDPCysylltuArLein
E-bost: [email protected]
Galwch: 101