Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Achlysur Arbennig: Mae Prif Gwnstabl sydd ar fin ymddeol, a ddechreuodd ei yrfa fel swyddog heddlu gwirfoddol, wedi cyflwyno ei wobr olaf i enillydd y wobr Heddlu Gwirfoddol.
Ar ddydd Llun 15 Chwefror 2021, cyflwynodd cyn Gwnstabl Gwirfoddol a ddringodd y rhengoedd i ddod yn Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ei wobr olaf un i un o swyddogion heddlu gwirfoddol rhagorol heddiw.
Cyhoeddwyd mai Cwnstabl Gwirfoddol o Sir Gaerfyrddin, Thomas Wadeward, oedd yr enillydd, a chyflwynwyd y wobr Heddlu Gwirfoddol iddo gan y Prif Gwnstabl Mark Collins QPM, a ganmolodd y gwirfoddolwr am ei “berfformiad rhagorol a’i ymrwymiad i blismona rheng flaen.”
Dywedodd Mr Collins, “Mae Tom yn swyddog heddlu perffaith sy’n rhoi ei amser i ddyletswydd gyhoeddus, gan gyflwyno ei sgiliau a’i rhinweddau ei hun i wella plismona lleol.”
Mae’r Cwnstabl Gwirfoddol Wadeward yn cydbwyso ei waith gwirfoddol â’i fywyd teuluol a’i swydd llawn amser fel swyddog trin digwyddiadau yng Nghanolfan Reoli’r heddlu.
Mae’n defnyddio ei sgiliau a’i wybodaeth ynghylch systemau TG a chysylltiadau radio’r heddlu i’w gynorthwyo fel cwnstabl gwirfoddol, gan fod yn barod i rannu ei arbenigedd technegol â’i -gydweithwyr yn nhimoedd ymateb Caerfyrddin.
Mae’r Cwnstabl Gwirfoddol Wadeward yn un o 72 Cwnstabl Gwirfoddol yn Heddlu Dyfed-Powys. Mae gan lawer ohonynt fywydau teuluol prysur ac yn gweithio neu’n astudio, ond eto maen nhw dal yn dod o hyd i’r amser i gyflawni eu dyletswydd fel swyddogion heddlu gweithredol.
Dywedodd Mr Collins, “Yr ydym ni fel teulu plismona’n hynod falch o’n Heddlu Gwirfoddol a’r gwaith hollbwysig maen nhw’n gwneud i wasanaethau’n cymunedau.”
Adlewyrchodd, “Ar ôl dechrau fy ngyrfa fy hun gyda’r heddlu fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Sussex yn 1985, braint i mi yw cyflwyno’r wobr Heddlu Gwirfoddol i Tom fel un o’m dyletswyddau olaf fel Prif Gwnstabl.”
Cyrhaeddodd tîm Swyddogion Gwirfoddol Sir Benfro, a helpodd i blismona’r sir gyda’i gilydd yn ystod y tymhorau prysuraf, ac athro o Gaerdydd, Jay Tew, a wirfoddolodd yn rhanbarth Powys, y rhestr fer ar gyfer y wobr hefyd.
Roedd Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys fod cael eu cynnal adeg y Gwanwyn yn 2020, ond gohiriwyd y seremoni oherwydd y pandemig coronafeirws.
Canmolodd y Prif Gwnstabl Collins yr enillydd, y Cwnstabl Gwirfoddol Wadeward, gan ddweud “Drwy flaenoriaethu dyletswydd cyn cynlluniau personol, y mae’r Cwnstabl Gwirfoddol Wadeward wedi diogelu pobl sy’n agored i niwed, atal trosedd a dangos gofal tuag at y gymuned.”
“Mae’n wasanaethwr naturiol, yn fodel rôl i nifer, ac yn enillydd haeddiannol y wobr Heddlu Gwirfoddol.”
Dywedodd y Cwnstabl Gwirfoddol Thomas Wadeward:“Yr wyf wedi bod yn gwasanaethu fel swyddog gwirfoddol ers ychydig dros tair blynedd erbyn hyn, gan weithio yng ngorsaf Caerfyrddin. Bu’n brofiad gwerth chweil ac rwy’n mwynhau pob sifft. Mae’r cymorth a’r arweiniad yr wyf wedi derbyn gan rai o’r swyddogion cyflogedig wedi bod yn wych.
"Byddwn yn argymell bod unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am blismona’n rhoi cynnig arno. Mae’r gallu i wisgo’r lifrai’n cynnig safbwynt unigryw ac yn dangos sut beth yw’r swydd.
"Cefais syn i glywed fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon, ond hoffwn ddiolch i’r swyddogion weithiais i gyda nhw am wneud y cyfan yn werth chweil. Diolch i Godau A, C ac ambell un arall!”
Wedi’ch ysbrydoli? Cliciwch yma er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â bod yn wirfoddolwr gyda’r heddlu.