Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu yn Sir Drefaldwyn yn ymchwilio i nifer o achosion o ddwyn a byrgleriaeth wledig ar hyd y ffin â Gorllewin Mersia.
Yn ystod y mis diwethaf derbyniwyd adroddiadau o wyth o achosion a oedd yn cynnwys dwyn offer pŵer a chyfarpar fferm.
O ganlyniad, mae’r heddlu’n cynghori preswylwyr i gymryd rhai camau syml fel nad ydynt yn dod yn ddioddefwyr byrgleriaethau neu ladradau.
Meddai’r Arolygydd Matthew Price
“Bydd swyddogion lleol yn targedu gweithgarwch amheus ar hyd y gororau a byddwn hefyd yn gofyn i breswylwyr adrodd am unrhyw bobl/gweithgarwch amheus i’r heddlu. Byddwn yn annog preswylwyr i sicrhau eu bod yn gosod marciau diogelwch ar eu heiddo a’u pethau gwerthfawr ac yn eu cloi o’r golwg.”
“Does dim problem fawr gyda byrgleriaeth yn ein hardal. Fodd bynnag, gall diffyg diogelwch yn gyffredinol ganiatáu i ladron ddod i mewn i’ch cartref neu eich adeiladau allanol. Os ydych yn cymryd yr amser i asesu diogelwch eich cartref, yn dilyn peth cyngor defnyddiol ac yn gweithredu’n gadarnhaol, gallwch ostwng y perygl o ddod yn ddioddefydd.”
Gostyngwch y perygl o ddioddef byrgleriaeth drwy sicrhau eich bod wedi cymryd y camau diogelu syml hyn:-
“Yn llawer rhy aml mai pobl yn dioddef byrgleriaeth gan fod eu cartref yn cael ei adael heb ei ddiogelu, nid oes larwm wedi ei osod ac mae ffenestri a drysau’n cael eu gadael heb eu cloi,” ychwanegodd yr Arolygydd Price. “Gall cymryd rhai camau syml i’ch diogelu eich hun a’ch eiddo rhag trosedd nid yn unig wneud i chi deimlo’n fwy diogel, ond gall hefyd ostwng eich siawns o ddod yn ddioddefydd trosedd”.