Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio’r cyhoedd ynghylch galwadau ffôn twyllodrus gan sgamwyr sy’n esgus eu bod o gwmni Amazon. Mae’n bosibl y bydd y galwadau hyn gan unigolyn neu wedi eu hawtomeiddio.
Yn ôl y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan mae Heddlu Dyfed Powys wedi sylwi ar gynnydd mawr mewn galwadau sgamio lle mae troseddwr yn ffonio’r dioddefydd ac yn esgus eu bod o gwmni Amazon.
Efallai bydd yr alwad yn nodi bod dyled o £79.97 – ond os nad ydynt yn dymuno adnewyddu, dylent ganslo Amazon drwy wasgu ‘1’.
Gall fod yn alwad sy’n nodi bod gwariant heb ei awdurdodi wedi bod ar y cyfrif (yn aml dros £1,000), ac eto, y cais fydd i chi wasgu ‘1’ er mwyn mynd drwyddo i’r ‘Adran Dwyll’.
Gydag unrhyw un o’r mathau hyn o alwadau, os gwasgir ‘1’, yna bydd y sgamwyr yn ceisio cael cymaint o fanylion personol â phosibl o’r dioddefydd, ac yna’n ceisio cael mynediad i’w manylion banc.
Yn anffodus, mae’r troseddwyr hyn yn fedrus iawn wrth deilwra cymdeithasol.
Mae nifer o bobl yn meddwl y bydd gan sgamwyr acen ‘dramor’, ond dydy hyn ddim bob amser yn wir.
Yn achos pob galwad o’r math hwn, y peth gorau yw rhoi’r ffôn i lawr, ac yna gwirio eich cyfrif arlein drwy ddefnyddio’r ap ar eich ffôn, neu wrth deipio’r cyfeiriad cywir [fel www.amazon.uk] ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif y ffordd hon a’i wirio.
Peidiwch â dilyn dolenni os yw’r troseddwr yn eu hanfon drwy negeseuon testun neu ebost - bydd y rhain fel arfer yn mynd â chi at wefannau ffug sy’n edrych yn ddilys.
Mae pob croeso i chi rannu’r cyngor hwn er mwyn ceisio helpu atal y troseddwyr hyn rhag bod yn llwyddiannus.