Stamp amser presennol: 16/05/25 12:36:55
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch

Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angheuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar Ddiogelwch Ffyrdd

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:00 18/01/21

Ddydd Mawrth 19eg Ionawr 2021, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn cynnal diwrnod ymgysylltu cymunedol rhithiol a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar Ddiogelwch Ffyrdd, lle bydd Heddlu Dyfed-Powys yn lansio ymgyrch genedlaethol, 5 Angheuol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ar lefel genedlaethol ar yr ymgyrch 5 Angheuol, sy'n canolbwyntio ar y pum llinyn sy'n ymwneud â'r prif ffactorau sy’n dueddol o arwain at wrthdrawiadau angheuol a gwrthrawiadau lle ceir anafiadau difrifol, sef yfed a gyrru / cyffuriau; goryrru; ddim yn gwisgo gwregys diogelwch; defnyddio ffôn symudol; gyrru diofal.

Bydd yr Ymgyrch yn cael ei lansio gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn fyw ar Facebook, yn ystod ei ddarllediad byw cyntaf o’r flwyddyn, ddydd Mawrth Ionawr 19eg lle bydd ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru yn ymuno ag ef, sef Arweinydd Strategol ar gyfer Plismona Ffyrdd yng Nghymru, a Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe.

Nod yr Ymgyrch Angheuol 5 yw codi ymwybyddiaeth o'r llinynnau 5 Angheuol I yrwyr yn gyffredinol, addysgu gyrwyr, gorfodi cydymffurfiad â rheoliadau traffig ar y ffyrdd, tynnu sylw'r cyfryngau at y pwnc ac o ganlyniad, lleihau nifer y pobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Yn 2019, cafodd 1,193 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru - mae hon yn gyfradd anffodus iawn, na ddylid ei derbyn ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn nodi ffyrdd o leihau’r ystadegau hyn, ynghyd a’r gost ddynol ofnadwy. Rwy'n benderfynol o weithio gyda chydweithwyr o'r pedwar Llu yng Nghymru yn ogystal â phartneriaid allweddol fel GoSafe i sicrhau cyfuniad cywir o addysg, gorfodaeth ac ymgyrchoedd i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

“Rwy’n edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch 5 Angheuol ddydd Mawrth yn ystod fy niwrnod Ymgysylltu Cymunedol. Gall y llinynnau, sy'n cynnwys, goryrru, defnyddio ffôn symudol, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru diofal, a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau oll arwain at ganlyniadau dinistriol; nid yn unig ar y rhai a fu'n rhan o'r gwrthdrawiad, ond hefyd ar y cylch ehangach o deulu a ffrindiau. Gobeithio, trwy ymgyrchoedd fel 5 Angheuol, y gallwn weithio gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol a sicrhau bod ein ffyrdd yn dod yn fwy diogel ”.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe, “Y pum llinyn a nodwyd yw’r prif gyfranwyr at wrthdrawiadau angheuol ar ffyrdd Cymru. Mewn cydweithrediad â'n partneriaid gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub ac Awdurdodau Lleol rydym yn cynnal amryw o ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn gan godi ymwybyddiaeth o sut y gall pob defnyddiwr ffordd chwarae ei ran wrth wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel os gwnânt y pethau bach i leihau'r risg hon.

“Trwy ymgysylltu â defnyddwyr ffyrdd mewn digwyddiadau, hyrwyddo’r negeseuon diogelwch craidd hyn dros y cyfryngau cymdeithasol ac mewn ymgyrchoedd hysbysebu a thrwy weithrediadau ar y cyd â’n gwahanol bartneriaid a chydweithwyr, nid yw’r Ymgyrch Angheuol Pump byth yn bell o graidd yr hyn a wnawn.

 “Nod strategol GoSafe yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel a lleihau anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Trwy gefnogi’r Ymgyrch 5 Angheuol, a chodi ymwybyddiaeth o sut y gall newid mewn ymddygiad ac agwedd arwain at daith fwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffordd, ein nod yw annog mwy o fodurwyr, o bob oed, i wneud y dewis diogel a helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb. ”

Dywedodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Plismona Ffyrdd yng Nghymru, ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru; “Rwyf wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd a hyrwyddo gyrru mwy diogel nid yn unig o fewn ardal fy Heddlu i yma yn Ne Cymru, ond hefyd ar lefel Genedlaethol ledled Cymru a thu hwnt, a rwy’n annog pobl i gymryd rhan yn yr Ymgyrch 5 Angheuol yr ydym yn ei lansio i helpu i hyrwyddo’r negeseuon allweddol.

“Mae gan bob un o bum llinyn yr ymgyrch hon ar eu pennau eu hunain y potensial i fod yn ffactor cyfrannol wrth i rywun gael ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol. Yn bwysig, maent hefyd yn ymddygiadau y gall defnyddwyr ffyrdd fod yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt a'u rheoli. "

“Mae cadw pobl yn ddiogel ar ein ffyrdd yn fater y gall pawb fod yn rhan ohono. Mae gan unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau i gyd ran i'w chwarae wrth helpu i hyrwyddo gyrru mwy diogel yn y wlad, a gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r ymgyrch ac yn gweithio gyda ni i hyrwyddo'r negeseuon allweddol mewn cymunedau lleol.

“Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn hyrwyddo gyrru mwy diogel yng Nghymru, gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn y pen draw, helpu i achub bywydau.”

Yn ystod ei Ddiwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned rithiol, bydd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr cymunedol ym Mhowys, i drafod materion diogelwch ar y ffyrdd mewn rhai ardaloedd o fewn y Sir cyn lansio'r Ymgyrch 5 Angheuol ar dudalen facebook Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys - www.facebook.com/DPOPCC - am 5: 00yp.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.