Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:41 13/01/2021
Mae Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed Powys wedi dod yn ymwybodol bod troseddwyr wedi bod yn anfon negeseuon testun ac ebyst yn ceisio denu pobl i wneud cais am frechlyn Covid-19.
Dywedodd DC Gareth Jordan, o'r Uned Seiberdroseddu: "Mae'r neges destun wedi’i gwneud i edrych fel petai’n dod oddi wrth y GIG ac yn datgan 'rydym wedi nodi eich bod yn gymwys i wneud cais am eich brechlyn' ac yn eich cynghori i ddilyn dolen er mwyn cael mwy o wybodaeth a 'gwneud cais'."
"Os byddwch yn dilyn y ddolen, cewch eich arwain i wefan sy'n edrych yn debyg iawn i wefan y GIG, ond sy’n ffug, sy'n gofyn am eich manylion personol.
"Ar ôl i chi roi eich manylion, mae’n gofyn am eich manylion banc/cerdyn er mwyn 'gwirio eich hunaniaeth'."
"Ond fel gyda phob sgam, os edrychwch chi ychydig yn nes, fe welwch nad yw'n wefan real. Yn yr achos hwn, fe welwch nad www.nhs.uk/ yw’r URL.
"Gan fod nifer o frechlynnau bellach yn cael eu cymeradwyo i'w defnyddio yn y DU, bydd y mathau hyn o ymdrechion i dwyllo’n parhau wrth i droseddwyr geisio manteisio ar gyflwyniad y brechlyn.
"Nid negeseuon testun yw’r unig beth, byddwch yn ofalus o alwadau diwahoddiad ac ebyst ynglŷn â'r brechlyn gan fod sgamwyr hefyd yn gofyn i bobl dalu amdano dros y ffôn. Cofiwch – mae'r brechlyn yn rhad ac am ddim ac nid oes modd neidio'r ciw drwy dalu am 'apwyntiad blaenoriaeth'.
"Os ydych chi'n derbyn un o'r galwadau hyn, rhowch y ffôn i lawr a blociwch y rhif.
"Os ydych wedi derbyn ebost yr ydych yn amheus ohono, anfonwch ef ymlaen at y Gwasanaeth Negeseuon Ebost Amheus (SERS) yn [email protected]
"Dylid anfon negeseuon testun amheus ymlaen at 7726. Mae'r cod byr di-dâl hwn yn galluogi eich darparwr i ymchwilio i darddiad y neges destun a gweithredu, os yw’n faleisus."
Cofiwch bob amser:
Stopiwch: Cymerwch ennyd i feddwl cyn rhoi eich arian neu eich gwybodaeth - gallai hyn eich diogelu.
Meddyliwch: A yw’n ffug? Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich brysio neu eich dychryn chi.
Gwiriwch: Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dioddef sgam a rhowch wybod i'r Heddlu amdano.
Cofiwch – Ni fydd y GIG, yr heddlu, na'ch banc, byth yn gofyn i chi dynnu arian o’r banc na'i drosglwyddo i gyfrif gwahanol. Ni fyddant byth yn gofyn i chi ddatgelu eich cyfrinair bancio na'ch PIN llawn.
Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn negeseuon testun neu negeseuon ebost annisgwyl neu amheus.
Cadarnhewch bod ceisiadau'n ddilys drwy ddefnyddio rhif ffôn neu gyfeiriad ebost hysbys i gysylltu â sefydliadau'n uniongyrchol.
Gwiriwch URL gwefan bob tro.
Does dim angen eich manylion banc ar y GIG a fyddan nhw ddim yn gofyn amdanynt mewn ebost neu neges destun.