Stamp amser presennol: 20/06/26 21:10:40
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Rhybudd wrth i dwyllwyr dwyllo pobl i ymadael ag aur

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 14:22 28/01/2021

Mae twyllwyr yn parhau i dargedu pobl mewn ffyrdd newydd, gyda dioddefwyr nawr yn cael eu holi i brynu aur a’r roi i negesydd sy’n gweithio i’r heddlu.

Wythnos diwethaf, dioddefodd dynes oedrannus yng ngorllewin Cymru dwyll negeswyr ar ôl cael ei thwyllo i gredu ei bod hi’n gweithio gyda’r heddlu er mwyn atal twyll. Cafodd ei thwyllo i brynu mwy na £10,000 o aur a’i roi i dwyllwyr. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan o dîm seiberdroseddu Heddlu Dyfed-Powys bod y troseddau diweddar wedi gweld dioddefwyr yn cael eu galw gan rywun a oedd yn esgus bod yn swyddog heddlu o orsaf heddlu Paddington.

Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Jordan: “Mae’r swyddog heddlu ffug yn dweud wrthynt am weithgarwch twyllodrus ar gerdyn banc yr unigolyn, neu’n dweud wrthynt fod angen iddynt drosglwyddo arian i gyfrif arall oherwydd gweithgarwch amheus.

“Rhagarweiniad i dwyll negeswyr yw hyn, lle mae rhywun yn dod i gasglu’r cerdyn banc ar ôl cael yr holl fanylion, megis y rhif PIN, wrth y dioddefydd, neu gael yr unigolyn i fynd i’r banc i dynnu arian y gellir ei gasglu’n ddiweddarach allan, neu weithiau ei drosglwyddo i gyfrifon eraill.”

Ers mis Hydref, mae’r Heddlu wedi derbyn cwynion am 62 o alwadau twyll negeswyr. Yn ffodus, sylweddolodd 52 o’r dioddefwyr posibl mai twyll ydoedd. Ataliwyd 5 twyll arall pan ymyrrodd y banc.

Yn anffodus, twyllwyd pum person gan y troseddwyr – rhoddodd dau aur, a rhoddodd tri arian. Cyfanswm eu colledion oedd £63,000.

“Yr ydym yn gweithio i sicrhau bod staff banc yn cadw llygad am arwyddion hyn, ac yn cysylltu â’u rheolwyr cangen er mwyn sicrhau bod staff yn ymwybodol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Jordan.

“Yr ydym yn gofyn i SCCH ymweld â banciau sydd ar agor yn eu hardaloedd a gofyn i staff banc roi gwybod i unrhyw gwsmeriaid sy’n tynnu arian allan neu’n trosglwyddo arian am y twyll hwn.

“Yn aml, mae’r twyll hwn wedi’i anelu at y genhedlaeth hŷn, sydd â pharch ar gyfer yr heddlu ac a allai fod yn fwy parod i gredu’r stori.

“Yr hyn sy’n ofidus yw y gall arwain at ragor o weithgarwch twyllodrus, gan gynnwys galw’r dioddefydd gan ddweud eu bod yn gweithio i’r banc a chael y dioddefydd i drosglwyddo arian i gyfrif arall yn y gred dwyllodrus bod ei gyfrif ei hun yn awr mewn perygl o ganlyniad i ddefnydd twyllodrus o’i gerdyn banc. Y drydedd rhan yw twyll buddsoddi a phrynu aur.”

 

Tair cam twyll negeswyr

 Mae’r twyll yn cychwyn gydag unigolyn (dyn fel arfer) yn ffonio’r dioddefydd gan esgus bod yn swyddog heddlu. Mae’r swyddog heddlu ffug yn esbonio bod cyfrifon banc y dioddefydd dan fygythiad gan dwyllwyr.

Mae’n darbwyllo’r dioddefydd i gymryd rhan mewn ymgyrch heddlu gudd ffug er mwyn dal y twyllwyr a diogelu ei arian.

Dywedir wrtho am beidio â dweud wrth neb, gan gynnwys ei fanc, gan fod staff y banc dan amheuaeth hefyd. Yn aml, mae’r swyddog heddlu ffug yn datgelu gwybodaeth ariannol breifat am y dioddefydd. Defnyddir hyn i annog y dioddefydd i ymddiried ynddo.

 

Cam un: Er mwyn dylanwadu ar y dioddefydd, mae’r drwgdybyn yn holi am falansau ei gyfrifon banc a’i gyfleusterau gorddrafft. Yna, gofynnir i’r dioddefydd dynnu swm bach o arian allan (gan ddibynnu ar falans banc y dioddefydd). Gorchmynnir y dioddefydd i roi’r arian i negesydd sy’n gorfod cadarnhau cyfrinair/rhif PIN a roddir gan y drwgdybyn. Gelwir y dioddefydd nes ymlaen ar y ffôn a dywedir wrtho fod y rhan fwyaf o’r arian yn ffug.

Cam dau: Unwaith y mae’r dioddefydd yn ymddiried yn y drwgdybyn ac yn credu ei gyfarwyddiadau, rhoddir sawl rhif cyfrif banc iddo (cyfrifon mul). Gorchmynnir y dioddefydd i symud swm mawr o’i arian (o £100,000 i £300,000 yn aml iawn) i gyfrifon “diogel”. Cyfrifon mul yw’r cyfrifon hyn mewn gwirionedd. Yn aml, trydydd partïon yw dalwyr y cyfrifon buddiolwr hyn sy’n anymwybodol o ffynonellau’r credyd yn eu cyfrif. Mae’r arian yn cael ei symud yn gyflym o’r cyfrifon buddiolwr i gyfrifon y tu allan i awdurdodaeth y Deyrnas Unedig. Gellir tynnu arian o’r cyfrif buddiolwr o unrhyw beiriant twll-yn-y-wal yn y DU.

Cam tri: Gorchmynnir dioddefwyr i brynu barrau aur neu oriorau drud. Eto, rhoddir yr eitemau hyn i negesydd sy’n cadarnhau cyfrinair a roddir i’r dioddefydd dros y ffôn gan y drwgdybyn. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan fod trefn y camau’n newid o ddioddefydd i ddioddefydd.

Meddai: “Mae’r drwgdybyn yn buddsoddi llawer o amser ac ymdrech mewn adeiladu perthynas â’r dioddefydd.

“Fel arfer, maen nhw’n dweud wrth y dioddefydd am beidio â datgelu manylion i unrhyw un gan fod yn rhaid i’r ‘ymgyrch’ aros yn gudd. Rhoddir stori i ddioddefwyr ar gyfer staff banc rhag ofn y bydd eu trafodion (anarferol) yn cael eu fflagio gan fesurau diogelwch y banc.”

Cofiwch – a dywedwch wrth eraill . . .

  • Ni fydd yr heddlu, na’ch banc, byth yn gofyn ichi dynnu arian allan neu ei drosglwyddo i gyfrif arall.  
  • Ni fydd eich banc byth yn anfon negesydd i’ch cartref.
  • Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn casglu’ch cerdyn banc.
  • Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn gofyn ichi ddatgelu’ch rhif PIN na’ch cyfrinair bancio llawn.
  • Os fyddwch chi’n derbyn un o’r galwadau hyn, gorffennwch yr alwad yn syth.
  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau mewn e-byst neu negeseuon testun amheus.
  • Cadarnhewch fod ceisiadau’n ddilys drwy ddefnyddio cyfeiriad ebost neu rif hysbys er mwyn cysylltu â sefydliadau’n uniongyrchol.

Os ydych chi’n credu’ch bod chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, wedi’ch targedu gan dwyllwyr, rhowch wybod inni ar-lein YMA, anfonwch ebost at [email protected], neu galwch 101.

Galwch 999 bob amser os ydych chi’n credu’ch bod chi mewn perygl neu niwed uniongyrchol.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.