Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
MANTEISIO ar chwaraewyr ar wefannau gêm, defnyddio ffotograffau ffug, a ffugio argyfyngau teuluol. Mae’r heddlu wedi rhestru rhai o’r ffyrdd y mae twyllwyr rhamant yn dod i hyd i’w dioddefwyr a’u twyllo i anfon cannoedd o bunnoedd.
Mae Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys yn annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth iddo ymdrin â nifer cynyddol o achosion twyll rhamant wrth i bobl chwilio am gyfeillgarwch neu gariad ar-lein.
Fel rhan o ymgyrch INTACT Heddlu Dyfed-Powys, sef ymgyrch ar gyfer cyfathrebu, addysgu a gorfodi dan arweiniad y Tîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig, tynnir sylw at ganlyniadau dinistriol posibl twyll rhamant y mis hwn.
Dywedodd Rebecca Jones, Swyddog Diogelu Rhag Twyll: “Yr ydym wedi cael dioddefwyr sydd wedi colli eu cynilion bywyd, sydd wedi gorfod gwerthu eu cartrefi, ac sydd wedi’u dinistrio’n llwyr ar ôl anfon symiau mawr o arian at rywun yr oeddent yn credu eu bod mewn perthynas â nhw.
“Ar wahân i’r agwedd ariannol, mae’r dioddefwyr hyn wedi colli ffydd yn eu hunain ac eraill, yn ei chael hi’n anodd siarad am eu profiad, ac yn teimlo’n unig iawn wrth geisio adfer yn emosiynol.”
Twyll rhamant yw pan mae rhywun yn creu hunaniaeth ffug er mwyn cychwyn perthynas gyda dioddefydd, â’r bwriad o ddwyn arian neu wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, er bod y twyll hwn hefyd yn cael ei adnabod fel twyll canlyn, yn wahanol i’r hyn a gredir, nid yw perthnasau’n cychwyn drwy wefannau canlyn yn unig.
“Yr ydym yn cael nifer o ddioddefwyr sydd wedi mynd ar-lein er mwyn dod o hyd i gariad, ac sydd yna’n cael eu targedu gan droseddwyr,” meddai Rebecca.
“Fodd bynnag, yr ydym nawr yn canfod bod twyllwyr yn symud i feysydd gwahanol. Yr ydym wedi cael achosion lle mae dau unigolyn wedi cwrdd ar wefan gemau, lle nad yw’r dioddefydd yn bwriadu dod o hyd i bartner, a hyd yn oed achos lle mae twyllwr wedi gofyn am filoedd o bunnoedd ar ôl cysylltu ag ysgrifennydd a oedd wedi postio gwaith ar-lein.
“Gan fod twyllwyr yn gyson addasu’r ffordd maen nhw’n manteisio ar ddioddefwyr, yr ydym yn annog pobl i fod yn ofalus yn holl feysydd eu bywydau ar-lein.”
Er eu bod yn defnyddio mathau amrywiol o wefannau i ddod o hyd i ddioddefwyr diarwybod, mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau twyll rhamant yn dilyn patrwm tebyg.
Yn gyntaf, enillir ffydd ac mae perthynas yn datblygu. Yna, mae’r twyllwr yn mynd ymlaen i ofyn am arian. Mae’n honni bod ganddo/ganddi argyfwng teuluol neu feddygol, neu’n dweud y bydd yn defnyddio’r arian i brynu tocyn awyren i ymweld â’i bartner/phartner. Unwaith mae’r arian hwn wedi’i anfon, bydd y troseddwr yn dal ati i roi rhesymau newydd dros anfon mwy o arian.
Mewn dau achos diweddar yr ymchwiliodd Heddlu Dyfed-Powys iddynt, defnyddiodd twyllwyr ffotograffau modelau rhyngwladol er mwyn sefydlu cyfrifon ffug. Mewn un achos, uwchlwythodd y twyllwr ffotograff o fodel gyda’i mab er mwyn ceisio gwneud i’w dioddefydd gredu bod ganddi deulu a oedd angen cymorth ariannol.
“Mae dioddefwyr yn medru cael eu denu gan ffotograffau deniadol, ac yn aml, nid ydynt yn amau bod y ffotograffau hyn wedi’u canfod ar-lein,” meddai Rebecca.
“Gwn fod hyn yn mynd yn erbyn greddf pobl i ymddiried yn eraill, ond byddem yn argymell gwirio unrhyw ffotograffau gan ddefnyddio gwiriwr delweddau er mwyn canfod y ffynhonnell wreiddiol. Er nad yw hyn yn ddatrysiad gwbl ddi-feth, mae’n cynnig rhywfaint o amddiffyniad.”
Mae’r Tîm Troseddau Economaidd hefyd wedi rhybuddio y bydd twyllwyr dal yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gysylltu â dioddefwyr â honiadau newydd eu bod angen arian, hyd yn oed ar ôl iddynt ddod â’u cysylltiad â nhw i ben.
“Roedd rhywun a oedd yn honni ei fod yn feddyg a oedd yn gofyn am arian er mwyn talu biliau meddygol dal yn cysylltu ag un o’r dioddefwyr yr oeddem yn cefnogi, tra bod un arall yn esgus bod yn swyddog heddlu mewn cyfres o negeseuon Skype.
“Ni allwn fod yn siŵr pa un ai a ddywedodd y dioddefydd wrth y troseddwr bod yr heddlu wedi cael gwybod amdano, neu os ydoedd yn amheus ar ôl i bob cysylltiad ddod i ben yn sydyn, ond mae’n dangos pa mor barod ydoedd i geisio parhau â’r twyll.”
Rhybuddiodd y tîm hefyd y gall twyll rhamant fynd tu hwnt i anfon arian at y troseddwr. Gall dioddefwyr ddod yn fulod arian, neu fe allant ddioddef cribddeiliaeth rywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan: “Defnyddio mulod arian yw lle y gofynnir i’r dioddefydd dderbyn arian i’w cyfrif banc, cyn i’r arian gael ei drosglwyddo i rywun arall. Mae hyn yn drosedd, ac rydyn ni wedi profi dioddefwyr mewn trallod ar ôl darganfod eu bod wedi torri’r gyfraith yn ddiarwybod drwy adael i’w cyfrif banc gael ei ddefnyddio yn y modd hwn.
“Cribddeiliaeth rywiol yw pan mae’r troseddwr yn gofyn i’r dioddefydd anfon ffotograffau neu fideos rhywiol o’i hun ato. Yna, mae’n derbyn bygythiadau y bydd y rhain yn cael eu rhannu â theulu neu ffrindiau os nad yw’n talu. Gall hyn gael effaith ddinistriol ar iechyd emosiynol a meddyliol dioddefwyr, sy’n teimlo eu bod wedi’u corneli heb unman i droi.”
Er bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am dwyll rhamant dros y flwyddyn ddiwethaf, mae swyddogion yn ofni nad ydynt wedi gweld effaith cyfnodau clo a hunan-ynysu yn ystod 2020 a dechrau 2021 eto.
“Gwn fod pobl wedi bod yn teimlo’n fwyfwy unig yn ystod y cyfnod clo,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Jordan.
“Mae pobl wedi bod yn gwarchod eu hunain, yn hunan-ynysu ac yn byw ar ben eu hun heb eu lefel arferol o gysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Mae’n naturiol crefu cyswllt â phobl eraill, a’r man cyntaf y bydd llawer o bobl wedi troi ato dros y flwyddyn ddiwethaf yw’r rhyngrwyd.
“Bu cynnydd yn nifer yr adroddiadau yr ydym wedi derbyn, ond gwyddwn y bydd rhai twyllwyr wedi treulio misoedd, neu hyd yn oed blynyddoedd, yn magu perthynas â’u dioddefwyr, felly nid yw’r gwir effaith yn hysbys ar hyn o bryd.
“Deallwn pa mor galed mae’n medru bod i ddod i delerau â dysgu bod yr un yr ydych chi wedi adeiladu perthynas ag ef/hi – weithiau dros sawl blwyddyn – wedi dweud celwydd am bwy ydoedd. Rydyn ni’n siarad â dioddefwyr sy’n ymdopi â’r sefyllfa ar ben eu hunain gan fod ofn dweud wrth deulu neu ffrindiau beth ddigwyddodd arnynt. Mae gennym fecanweithiau mewn grym i’ch helpu drwy’r cam ymchwiliad a thu hwnt.”
Cyngor ar gyfer diogelu’ch hun:
Cyngor ar gyfer gwarchod anwyliaid:
Adnabod yr arwyddion:
Am ragor o wybodaeth a chyngor, galwch heibio i https://takefive-stopfraud.org.uk/advice/general-advice/romance-scam/