Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi cynnig mewnwelediad i ymchwiliadau caethwasiaeth modern wrth i ymgyrch newydd troseddau difrifol a throseddu trefnedig gael ei lansio.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi siarad am ymgyrchoedd diweddar ar draws yr heddlu, gan annog pobl i gadw llygad am arwyddion y gallai rhywun fod yn ddioddefydd caethwasiaeth.
Mae’r heddlu wedi lansio INTACT, sef ymgyrch addysgu, ymgysylltu a gorfodi a arweinir gan y Tîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig, a fydd yn canolbwyntio ar faes trosedd gwahanol bob mis, gan gychwyn gyda chaethwasiaeth modern.
Esboniodd y Ditectif Ringyll Dros Dro Rob Claypole bod swyddogion yn gweithio ar gudd-wybodaeth weithredol am ddioddefwyr caethwasiaeth posibl fel rhan o ymchwiliadau ac ymgyrchoedd cyfredol. Yna, siaredir â dioddefwyr posibl i ffwrdd o’u cartrefi neu eu mannau gwaith – ac, yn hollbwysig, i ffwrdd rhag camfanteiswyr posibl.
“Mae angen ichi fynd â dioddefwyr posibl i ffwrdd o’r camfanteiswyr er mwyn ennill eu hyder a’u ffydd,” meddai’r Ditectif Ringyll Dros Dro Claypole.
“Mae hyn yn ein galluogi i frysbennu’r sefyllfa ac asesu pa un ai a oes gennym ddioddefwyr caethwasiaeth modern yn y lleoliad hwnnw. Os nad oes unrhyw ddioddefwyr yn cael eu hadnabod, yr ydym dal wedi gweithredu’n gadarnhaol a rhoi cyfle i ddioddefwyr posibl ddod ymlaen neu gael eu hadnabod. Ar y llaw arall, os yw’n ymddangos fel pe bai mater caethwasiaeth posibl, medrwn edrych ar gael y dioddefydd i ffwrdd o’r sefyllfa honno yn y tymor hir.
“Yr ydym hefyd wedi cael cefnogaeth Byddin yr Iachawdwriaeth, meddygon ac asiantaethau cymorth eraill mewn ymgyrchoedd diweddar.”
Mae caethwasiaeth modern yn broblem fyd-eang ac yn drosedd ryngwladol sy’n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd, gan gynnwys y DU. Gall dynion, menywod a phlant o bob oed a chefndir ddioddef cam-drin llafur, a chael eu gorfodi i weithio am ddim neu am gyflog isel iawn.
Esboniodd y Ditectif Ringyll Dros Dro Claypole bod cam-drin llafur yn medru gweld pobl yn gweithio i’r camfanteisiwr a byw ar y safle hefyd mewn lleoliadau gwledig. Y perygl i’r dioddefydd yw y bydd yn colli ei gartref os yw’n rhoi’r gorau i’w waith.
“Yr ydym hefyd yn edrych am fregusrwydd a gorfodaeth, sef lle y bydd camfanteisiwr yn dod o hyd i ddioddefydd sy’n fregus mewn rhyw ffordd – er enghraifft, drwy fod yn ddigartref neu’n gaeth i rywbeth,” meddai.
“Ar ôl adnabod dioddefydd, mae’r camfanteisiwr yn symud ymlaen i orfodaeth drwy gynnig rhywbeth sydd ei angen arno – er enghraifft, llety, alcohol neu gyffuriau yn gyfnewid am waith.
“Gall fod yn anodd iawn i ddioddefydd adael sefyllfaoedd o’r fath oherwydd mae’n ofni y byddai’n colli’r hyn sydd ei angen arno – rhywle i fyw, mynediad at gyffuriau neu fynediad i’w cyflog.
“Yn seiliedig ar ymgyrchoedd blaenorol, mae dioddefwyr yn aml yn byw mewn amodau gwael, heb fynediad at wres, dŵr poeth neu drydan. Fodd bynnag, er bod yr amodau’n is o lawer na’n disgwyliadau, maent yn barod i dderbyn hyn gan eu bod yn teimlo ei fod yn well na bod yn ddigartref.”
Mae yna sefyllfaoedd hefyd lle nad yw’r dioddefydd yn cael ei gadw yn erbyn ei ewyllys, ond mae ganddo broblem o ran cael ei adnabod a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd iddo ddod o hyd i waith confensiynol, neu efallai nad yw’n dymuno bod yn agored am ei sefyllfa.
“Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bwysig iawn siarad â’r dioddefydd posibl i ffwrdd o’r camfanteiswyr posibl ac ennill ei ffydd,” meddai’r Ditectif Ringyll Dros Dro Claypole.
“Er enghraifft, siaradodd swyddogion ag un dioddefydd posibl ddwywaith ar ôl i bryderon gael eu mynegi, ond ni nododd ei fod yn ddioddefydd. Fodd bynnag, pan aeth yr unigolyn i’r ysbyty, mynegwyd pryderon eto.
“Wrth siarad â’r heddlu am y trydydd tro, ac ar dir niwtral, datgelwyd ei fod yn cael ei dalu braidd dim am chwe diwrnod o waith. Fel gwladolyn tramor, credai mai dyna oedd ei ddewis gorau, felly roedd wedi aros yno oherwydd anobaith.
“Nid oedd yn gwybod am ddim sy’n wahanol, ond ar ôl i swyddogion esbonio nad oedd ei sefyllfa’n iawn, dechreuodd ymgysylltu â ni. Pe bai swyddogion wedi siarad ag ef yn ei gartref neu ei weithle, credaf y byddai wedi eu harwain i gredu nad oedd yn ddioddefydd.
“Drwy siarad ag ef mewn lleoliad gwahanol, rhoddwyd cyfle iddo wrando, deall ac ymgysylltu.”
Fel rhan o ymgyrch INTACT, mae swyddogion yn annog pobl i gadw llygad am arwyddion y gallai rhywun fod yn ddioddefydd cam-drin llafur:
Os oes gennych unrhyw amheuon neu bryderon ynghylch camfanteisio ar weithwyr, dylech adrodd amdanynt yn syth.
Medrwch gysylltu â’r canlynol:
Yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur - 0800 432 0804 neu 0115 959 7032 (y tu allan i oriau swyddfa)
E-bost: [email protected]
Yr Heddlu: Galwch 101, neu 999 mewn argyfwng
Crimestoppers Cymru: 0800 555 111
Y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Modern: 08000 121 700