Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu dau gerbyd, sef lori Daf werdd a wagen godi Ford Transit wen, yn gysylltiedig â gwrthdrawiad ben-ben ger The Cottage Inn.
Yn drist, bu farw’r ddau yrrwr, sef dynion 62 a 40 oed. Mae eu perthnasau agosaf yn ymwybodol ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cludwyd merch ifanc, a oedd yn teithio yn y lori, i’r ysbyty mewn hofrennydd er mwyn bod yn ddiogel. Canfu ei bod ond wedi dioddef mân anaf.
Roedd y ffordd ar gau am sawl awr. Cafodd ei hailagor tua 10 o’r gloch y noson honno.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad, gan gynnwys unrhyw ddarn ffilm camera cerbyd o’r naill gerbyd neu’r llall cyn neu yn ystod y gwrthdrawiad, i roi gwybod inni FAN HYN, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Dyfynnwch y cyfeirnod: DP-20210708-144.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.