Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi canmol dynes a wynebodd ei chyn bartner emosiynol gamdriniol a rheolaethol yn y llys wrth iddo gychwyn dedfryd o garchar am aflonyddu a dychrynu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi canmol y dioddefydd, a dderbyniodd cannoedd o alwadau ffôn, negeseuon testun ac e-byst, am ei chryfder wrth iddi godi ei llais ac wynebu’r diffynnydd, Gary Suff, yn y llys.
Dechreuodd Suff, 31 oed, o Canal Close yn y Drenewydd, gam-drin ei gyn gariad yn emosiynol a’i llwgrwobrwyo ar ôl i’w perthynas ddod i ben ym mis Awst 2020.
Gwaethygodd ei ymddygiad, gan droi’n ymgyrch fis o hyd lle y gwnaeth fygwth cymryd ei fywyd ei hun droeon pe na bai’r dioddefydd yn ateb, gan ei gorfodi yn y pen draw i roi gwybod i’r heddlu am y cam-drin.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jacqui Lovatt: “Rhoddodd y dioddefydd adroddiad manwl i swyddogion o’r boen emosiynol roedd hi wedi dioddef.
“Ceisiodd ymateb i e-byst Suff i gychwyn mewn ymgais i’w dawelu a gwneud y sefyllfa’n haws iddi reoli, fodd bynnag, yr oedd yn benderfynol o barhau â’i ymgyrch yn ei herbyn.
“Fe wnaeth fygwth niweidio ei hun yn barhaus pe na bai’n ateb ei negeseuon mewn ymgais i’w rheoli, a mynnodd ffotograffau i ddangos ble’r oedd hi a phwy oedd gyda hi.
“Mae’r ymddygiad hwn yn bryderus iawn, ac yn amlwg, yr oedd yn cael effaith negyddol ar y dioddefydd, a oedd yn teimlo nad oedd ganddi ddewis heblaw ateb neu fe fyddai’n gwneud iddi deimlo’n gyfrifol am niweidio ei hun.”
Darganfu swyddogion a ymchwiliodd i’r achos bod Suff wedi newid rhif ei ffôn symudol 4 gwaith mewn hynny o fisoedd er mwyn parhau i gysylltu â’i gyn bartner pan oedd hi’n rhwystro ei alwadau. Yr oedd hefyd wedi dechrau cysylltu â hi drwy ebost pan rwystrodd ef rhag cysylltu â hi drwy gyfryngau cymdeithasol.
Rhoddodd y dioddefydd lwyth o dystiolaeth ffotograffig o e-byst yr oedd hi wedi derbyn. Roedd llawer ohonynt yn cynnwys delweddau graffig ac annifyr.
Dywedodd y Prif Arolygydd Lovatt: “Roedd Suff yn cymryd llawer iawn o gocên ac yn yfed llawer o alcohol bob dydd. Roedd hynny’n ei wneud yn beryglus ac annarogan iawn.
“Sicrhaom fod y dioddefydd yn derbyn pob mesur a chyngor diogelu posibl – gan gynnwys larymau a theledu cylch cyfyng – yn ystod ein hymchwiliad.”
Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei arestio, parhaodd i geisio cysylltu â hi a’i rheoli drwy gysylltu â ffrind. Fe wnaeth ei bygwth y byddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymyrryd pe bai swyddogion yn cael mynediad i’w ffôn oherwydd fe fyddent yn dod o hyd i negeseuon damniol a fyddai’n cael y dioddefydd i helynt. Dywedodd ei fod yn gweithredu er budd gorau’r dioddefydd.
Arestiwyd y dioddefydd eto ar amheuaeth o ddychrynu tyst.
Cafodd ei gyhuddo o aflonyddu gan achosi ofn trais, a dychrynu. Cyfaddefodd i’r troseddau hyn pan ymddangosodd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau 8 Gorffennaf.
Cafodd ei ddedfrydu i 18 mis o garchar.
Yn ystod y gwrandawiad, darllenodd y dioddefydd ei datganiad effaith ei hun, gan ddweud bod ymddygiad Suff wedi gwneud iddi deimlo’n unig ac ofnus drwy’r amser.
Meddai: “Drwy gydol fy mherthynas â Gary, gwnaed imi deimlo mai fy mai i oedd unrhyw broblem yr oedd ganddo.
“Y mae wedi bod yn paranoid a chenfigennus o’r cychwyn. Roedd hynny’n aml yn golygu bod yn rhaid imi fynd allan o’m ffordd i brofi fy mod i wedi bod yn ffyddlon iddo. Oherwydd hyn, nid wyf eisiau mynd allan a chymdeithasu.”
Ychwanegodd: “Yr wyf yn ofnus drwy’r amser, ac rwy’n teimlo fy mod i o hyd yn aros i’r negeseuon testun gychwyn, felly rwy’n ynysu fy hun oherwydd rwy’n teimlo y medrwn ymdopi â’r negeseuon cyson tra fy mod i adref.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Lovatt: “Yr ydym yn gobeithio bydd y ddedfryd hon, ynghyd â gorchymyn atal, yn galluogi’r dioddefydd i symud ymlaen a dechrau ailadeiladu ei bywyd.
“Hoffwn ei chanmol am ddod o hyd i’r dewrder i ddod ymlaen a rhoi gwybod i’r heddlu am y cam-drin hwn. Gwn nad oedd hyn yn benderfyniad hawdd. Dewisodd wynebu Suff yn y llys hefyd, a disgrifio’r effaith a gafodd ei gam-drin ar ei lles meddyliol arni yn bersonol, sy’n dangos cryfder aruthrol er waethaf y rheolaeth y ceisiodd gael drosti dros sawl mis.
“Byddwn yn annog unrhyw un arall sy’n wynebu ymddygiad tebyg gan bartner neu gyn bartner i ddilyn ôl ei throed a dod ymlaen. Yr ydym yma i’ch cefnogi a’ch helpu.”