Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:25 12/07/2021
Mae gwerthwr cyffuriau adnabyddus o Aberystwyth wedi’i garcharu am ei ran mewn meddu ar werth £170,000 o heroin a’i werthu, yn ogystal â cheisio dianc o ddalfa’r heddlu.
Cyhuddwyd Michael James Price o feddu ar heroin â’r bwriad o werthu yn dilyn proses stopio a chwilio gan Heddlu Dyfed-Powys, a arweiniodd at atafaeliad heroin mwyaf erioed yr heddlu.
Adenillodd swyddogion tua 1 cilogram o’r cyffur dosbarth A – sydd werth tua £125,000 ar y stryd – yn dilyn proses stopio a chwilio yn Aberystwyth ar 14 Mai.
Roedd Price, 48 oed, o Dan-y-cae, Aberystwyth, eisoes dan ymchwiliad am fod yn gysylltiedig â chyflenwi gwerth £45,000 o heroin yn dilyn gwarant ym mis Awst 2020.
Cafodd ei stopio gan swyddogion ar ôl i ymholiadau gael eu cynnal mewn perthynas â char sy’n gysylltiedig â giang troseddu trefnedig, a oedd wedi teithio i Aberystwyth am gyfnodau byr 5 gwaith mewn 6 wythnos.
Gwelodd swyddogion Price a dyn y daethant i’w adnabod nes ymlaen fel John James Rooney yn cyfnewid ar dir y castell oddeutu 9 o’r gloch y bore ar 14 Mai 2021. Roedd y car wedi’i barcio gerllaw.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Steve Jones, o Dîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig Ceredigion: “Chwiliodd swyddogion Price, a daethant o hyd i fag a oedd yn cynnwys 35 bag llai o heroin ym mhoced ei siaced.
“Roedd gan y cyffuriau hyn y potensial i gael eu rhannu’n 12,500 dêl unigol ar y stryd.
“Mae adennill cymaint â hyn o heroin yn ardal Dyfed-Powys yn rhyfeddol, a byddai wedi achosi dinistr difrifol i’r gymuned.”
Arestiwyd Price yn syth ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu.
Daethpwyd o hyd i John James Rooney, 44 oed, sydd heb gartref sefydlog, gan Uned Plismona’r Ffyrdd Powys, ac fe’i harestiwyd ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Roedd £2,325 mewn arian parod yn ei feddiant. Honnodd mai ei gyflog ydoedd, er iddo honni’n ddiweddarach ei fod yn ddi-waith.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jones: “Cynhaliwyd ymchwiliad trylwyr i’r ddau ddyn, gan gynnwys dadansoddi cyffuriau, ymholiadau ariannol a digidol, a phrofion DNA, a brofodd bod olion bysedd Price a Rooney’n bresennol ar nifer o’r bagiau heroin.
Arweiniodd tystiolaeth at Rooney’n cael ei gyhuddo o gyflenwi heroin, cael, defnyddio neu feddu ar eiddo troseddol, sef £2,325 mewn arian parod, gyrru dan waharddiad, a gyrru heb yswiriant.
Cyfaddefodd i’r drosedd a chafodd ei ddedfrydu i 4 blynedd a hanner o garchar yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 12 Gorffennaf.
Ar gyfer y digwyddiad ym mis Mai, cyhuddwyd Price o feddu ar heroin â’r bwriad o werthu.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o gyflenwi heroin mewn cysylltiad â gwarant gyffuriau yn ei gartref yn Aberystwyth ym mis Awst 2020, lle y daethpwyd o hyd i werth £45,000 o heroin.
Daethpwyd o hyd i olion bysedd Price ar fag a oedd yn cynnwys 28g o heroin, yn ogystal ag ar awyrdwll yr oedd y cyffuriau wedi’u cuddio y tu ôl iddo.
Fe’i cyhuddwyd hefyd o geisio dianc pan oedd yn cael ei ddal yn gyfreithlon yn dilyn digwyddiad â’i welodd yn ceisio dringo i fyny gât 10 troedfedd o uchder mewn ymgais i ddianc o’r ddalfa.
Cyfaddefodd i bob trosedd, ac fe’i dedfrydwyd i 9 mlynedd a hanner o garchar.
Ar ôl ei ddedfrydu, dywedodd y Ditectif Ringyll Jones: “Mae’n dda gennym weld y ddau ddyn dan glo am eu rhan mewn cyflenwi’r cyffur dinistriol hwn i Aberystwyth.
“Mae Price wedi bod yn gysylltiedig â chyflenwi heroin ers cryn amser, ac mae ganddo ddwy euogfarn flaenorol am y drosedd.
“Yn amlwg, mae’n dal i chwarae rôl mewn cyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Aberystwyth, a hynny heb os er mwyn cynnal ei arfer ei hun.
“Rwy’n hyderus y byddai wedi parhau i werthu’r cyffur rheoledig pe na bai wedi’i garcharu, er mwyn talu’r ddyled o golli’r cyffuriau hyn yn ôl.”