Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Canfu cyllell â llafn 8 modfedd ym meddiant dyn a oedd yn eisiau am dorri gorchymyn llys pan gafodd ei stopio gan yr heddlu.
Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar batrôl ar Heol yr Orsaf, Llanelli, ychydig cyn 10 o’r gloch fore ddydd Gwener 2 Gorffennaf pan welsant Jonathan Levi Edwards yn eistedd ar feic.
Gan wybod bod y dyn 21 oed yn eisiau ar amheuaeth o dorri gorchymyn cymunedol, trodd y swyddogion eu car o gwmpas a thynnu i mewn er mwyn siarad ag ef.
Dywedodd y Rhingyll Gareth Oliver o Dîm Ymateb Llanelli: “Tra bod un o’r swyddogion yn gwirio cyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Levi, sylweddolodd ei gydweithiwr ei fod yn ymddangos fel pe bai ar bigau’r drain.
“Holodd Levi pa un ai a oedd ganddo rywbeth na ddylai fod ganddo yn ei feddiant. Gwadodd fod ganddo rywbeth.
“Dyna pryd y cadarnhaodd ei fod yn eisiau, ond wrth i swyddogion ei arestio, neidiodd oddi ar y beic a cheisiodd redeg i ffwrdd.
“Cafodd ei daclo’n fuan i’r llawr a’i ffrwyno cyn y gallai ddianc.”
Rhoddwyd gefynnau o gwmpas dwylo’r drwgdybyn ac fe’i chwiliwyd. Daeth swyddogion o hyd i gyllell â llafn 8 modfedd wedi’i lapio mewn lliain wedi’i chuddio yn ei ddillad isaf, wedi’i gorchuddio o dan ei siaced.
Honnodd ei fod wedi dod o hyd i’r gyllell i fyny’r ffordd, a’i fod wedi ei chodi er mwyn ‘mynd â hi allan o’r ffordd.’
Arestiwyd Edwards ac fe’i cyhuddwyd nes ymlaen o feddu ar lafn mewn man cyhoeddus.
Arweiniodd ymholiadau at swyddogion yn cael gwybod bod Edwards yn ‘cario’r gyllell i’w amddiffyn’ ond ei fod wedi honni na fyddai’n ei defnyddio.
Ymddangosodd Levi Edwards yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau 8 Gorffennaf, ac fe’i dedfrydwyd i 18 wythnos o garchar am feddu ar lafn yn gyhoeddus.
Tynnwyd y cyhuddiad o dorri gorchymyn cymunedol yn ôl.
Dywedodd y Rhingyll Oliver: “Roedd hwn yn ddarn arbennig o waith ymatebol gan y swyddogion cysylltiedig.
“Mae’n bryderus iawn bod gan Levi gyllell gegin mor fawr yn gyhoeddus, yn enwedig o ystyried bod ymchwil yn dangos bod y rhai sy’n cario arfau i amddiffyn eu hunain yn fwy tebygol o’u cael wedi’u defnyddio yn eu herbyn pe baent yn dod i helynt.
“Sicrhaodd teimlad y swyddogion ei fod yn ymddwyn fel pe bai ar bigau’r drain, yn ogystal â’u gweithredu cyflym o ran ei atal pan geisiodd redeg i ffwrdd, fod y gyllell hon wedi’i chymryd oddi ar y strydoedd a bod modd cael gwared arni.”