Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Cwnstabl Simon England gerbron panel annibynnol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2019, yn dilyn adroddiadau am sylwadau ac ymddygiad rhywiol amhriodol yn erbyn aelodau o’r cyhoedd (yn anuniongyrchol) a chydweithwyr.
Yn dilyn adolygiad barnwrol i’r gwrandawiad yn 2019, yr wythnos hon, dygwyd Cwnstabl England gerbron panel arall, a gafodd ei oruchwylio gan Mrs Sally Olsen, cadeirydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.
Cyfaddefodd Cwnstabl England yn llawn i’r ymddygiad honedig yn ei gyfanrwydd, a derbyniodd ei fod gyfystyr â chamymddwyn difrifol. Fodd bynnag, nid oedd yn credu bod yr ymddygiad hwn yn cyfiawnhau ei ddiswyddo o’r heddlu.
Canfu’r Panel bod yr ymddygiad dan sylw gyfystyr ag achosion difrifol o dorri’r safonau ymddygiad proffesiynol sy’n ymwneud ag awdurdod, parch a chwrteisi, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymddygiad gwarthus. Gan hynny, cafodd ei ddiswyddo, a hynny ar unwaith.
Yn dilyn yr ail banel hwn, dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter:
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigon cywir yn disgwyl y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf gan ei swyddogion a’i staff, ac mae’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a’u diogelu’n disgwyl hynny hefyd.
“Ni all yr heddlu ddioddef ymddygiad o’r fath, ac ni fyddwn yn ei ddioddef. Byddwn bob amser yn gweithredu er mwyn amddiffyn ein swyddogion, ein staff, ac yn ddi-gwestiwn, y cyhoedd.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cynnal hyder y cyhoedd yn yr heddlu, ac ni ellir cynnal hyder y cyhoedd drwy ganiatáu i unigolion sy’n ymddwyn yn y fath ffordd aros yn y sefydliad.
“Mae’n dda gennyf weld bod difrifoldeb y mater hwn wedi’i gydnabod yn awr, a bod y panel wedi barnu bod yr ymddygiad hwn gyfystyr â chamymddwyn difrifol. Mae hyn yn cadarnhau bod y penderfyniad i herio’r canlyniad gwreiddiol drwy adolygiad barnwrol yn un cywir.”
Mae enghreifftiau o’r ymddygiad dan sylw’n cynnwys cyffwrdd yn amhriodol â chydweithwyr â bwriad rhywiol, sylwadau amhriodol i gydweithwyr am fastyrbio, a siarad am weithredoedd rhywiol penodol y byddai’n dymuno cymryd rhan ynddynt gydag aelodau o’r cyhoedd yr oedd wedi’u gweld.