Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae’r Heddlu wedi datgelu pryderon y bydd cynnydd yn nifer y ceir ar y ffyrdd, wrth i bobl fynd ar wyliau’n agosach at adref, yn arwain at gynnydd o ran gwrthdrawiadau angheuol ac anafiadau difrifol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau ffigurau sy’n dangos cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol mae ei Unedau Plismona’r Ffyrdd wedi ymateb iddynt yn ystod y tri mis diwethaf wrth i bobl fwynhau llai o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r haint COVID-19 a’r rhyddid i deithio.
Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau wedi cynyddu’n aruthrol o 7 ym mis Mawrth, i 17 ym mis Ebrill, 18 ym mis Mai, a 21 ym mis Mehefin.
Ac mae swyddogion wedi mynegi pryderon y bydd y duedd yn parhau.
Dywedodd Tom Sharville, Prif Arolygydd Gweithrediadau Arbenigol yr Heddlu, “Roedd mis Mai’n fis gwael o ran tywydd, ond serch hynny, gwelsom gynnydd yn nifer y cerbydau ar ein ffyrdd wrth i bobl ddechrau mwynhau’r rhyddid i deithio eto.
“Yn anffodus, gyda hyn, daeth cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau, ac rydym yn disgwyl y bydd nifer y gwrthdrawiadau’n parhau i gynyddu dros yr haf wrth i fwy a mwy o bobl osgoi’r ansicrwydd o ran teithio dramor, a mynd ar wyliau yn y DU.”
Aeth swyddogion i leoliad 91 digwyddiad traffig y ffyrdd ar draws yr ardal heddlu ym mis Mai – y ffigwr misol uchaf hyd yn hyn eleni. Cofnodwyd 14 anaf difrifol a 4 marwolaeth.
“Yr hyn y mae angen i bawb ohonom gofio yw nad ystadegau’n unig yw’r rhain,” meddai’r Prif Arolygydd Sharville.
“Mae’r marwolaethau hynny’n ymwneud â phedwar unigolyn na ddychwelodd adref i’w hanwyliaid. Wynebodd pedwar teulu’r trawma anhygoel o agor y drws i swyddog heddlu’n rhoi gwybod iddynt am farwolaeth, a phedwar grŵp o ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr yn galaru am rywun a oedd yn annwyl iddynt.
“Ac fe allai fod wedi digwydd i unrhyw un ohonom.”
Mae cynlluniau plismona rhagweithiol mewn grym i ddiogelu defnyddwyr y ffyrdd dros yr haf, gan gynnwys Ymgyrch Darwen, sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch beiciau modur, ac Ymgyrch Snap, sy’n caniatáu i aelodau o’r cyhoedd gyflwyno darnau ffilm camera cerbyd o yrwyr peryglus ar gyfer ymchwiliad gan yr heddlu.
Ond mae’r Prif Arolygydd Sharville hefyd yn annog gyrwyr eu hunain i wneud eu rhan er mwyn helpu i leihau’r pwysau ar dimoedd plismona’r ffyrdd.
“Yr ydym yn gofyn ichi fod yn ymwybodol o’r amgylchedd a defnyddwyr eraill y ffyrdd o’ch cwmpas, ac i ganolbwyntio’n llwyr bob amser,” meddai.
“Efallai y byddwch yn teithio ar hyd ffyrdd anghyfarwydd, neu’n ceisio llywio ffyrdd newydd, ond peidiwch â gadael i hyn roi chi a’ch teulu mewn perygl o anaf neu waeth.
“Yr ydym eisiau ichi gyrraedd pen eich taith yn ddiogel, waeth pa un ai a ydych chi’n ymwelydd sy’n mwynhau ardaloedd hardd Dyfed-Powys am y tro cyntaf, neu’n breswylydd lleol sy’n cymudo ar yr un hen ffordd bob dydd.
“Mae cynnydd o ran traffig yn golygu cynnydd o ran perygl i bawb sy’n defnyddio’r ffordd, felly, da chi, peidiwch â llaesu dwylo, a byddwch yn wyliadwrus.
“Nid yw’n swyddogion eisiau curo ar eich drws.”