Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:55 14/06/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig y ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar y B4341 rhwng Hwlffordd ac Aberllydan tua 8.25 o’r gloch nos Sul 13 Mehefin 2021.
Credir mai’r cerbydau cysylltiedig oedd Citroen C1 glas, Ford Ka gwyn a Seat Ibiza gwyn.
Yn drist, bu farw ddynes a oedd yn y car Ford Ka gwyn yn y fan a’r lle. Mae ei pherthnasau agosaf wedi cael gwybodaeth ac mae swyddogion arbenigol yn eu cefnogi.
Aed â dau ddyn a dynes a ddioddefodd anafiadau difrifol i’r ysbyty.
Caewyd y ffordd ac fe’i hail agorwyd am 10 o’r gloch fore heddiw, 14 Mehefin 2021.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar yr adeg berthnasol sydd â ffilm camera cerbyd, i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys
ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/,
drwy anfon ebost at [email protected],
neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Dyfynnwch gyfeirnod: DP-20210613-400.