Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiodd yr heddlu ddau unigolyn a stopio ceir a oedd yn goryrru ar gyflymder a oedd dros ddwywaith y terfyn cyfreithiol yn ystod ymgyrch ar gyfer mynd i’r afael â gyrru gwrthgymdeithasol.
Arweiniodd Uned Plismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys ymgyrch amlasiantaeth rhwng Machynys a Doc y Gogledd nos Wener yn dilyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau am yrwyr yn rasio yn yr ardal ac yn ymgasglu yn y maes parcio.
Cafodd chwech o bobl eu dal yn goryrru mewn dwy awr a hanner. Y cyflymder uchaf oedd 88mya mewn parth 40mya.
Arestiwyd dau unigolyn hefyd – un ar amheuaeth o gymryd cyffuriau a gyrru, ac un a oedd yn eisiau.
Dywedodd y Rhingyll Richard Lucas: "Nod yr ymgyrch oedd rheoli nifer y bobl sy’n gyrru’n wrthgymdeithasol ar hyd ffordd yr arfordir rhwng Machynys a Doc y Gogledd, ac yn Noc y Gogledd ei hun.
"Mae’r ymddygiad hwn wedi dod yn destun pryder ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal, ac roeddem eisiau cymryd camau gweithredu llym i’w atal.
"Drwy gydol y noson, bu ymgysylltu rhwng swyddogion a phobl sy’n frwd am geir. Canolbwyntiwyd ar beryglon gyrru gwrthgymdeithasol a goryrru.
"Stopiom nifer o geir, cyhoeddom 19 rhybudd, ac atafaelom un cerbyd."
Ymunodd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, y DVLA, GanBwyll a Thimoedd Plismona Bro â swyddogion, a chynhaliwyd gwiriadau cyflymder, treth ac yswiriant mewn mannau problemus o ran troseddu.
Er taw’r nod cyffredinol oedd addysgu gyrwyr am beryglon goryrru neu yrru cerbydau nad oeddent yn addas ar gyfer y ffordd, roedd gorfodi hefyd yn ofynnol. Dyma’r canlyniadau:
2 arést - un am gymryd cyffuriau a gyrru ac yn ar gyfer unigolyn a oedd yn eisiau
Cafodd 6 unigolyn eu dal yn goryrru
4 gwaharddiad yn syth ar gyfer cerbydau peryglus neu gerbydau a oedd wedi’u gorlwytho
5 gwaharddiad gohiriedig
Cyhoeddwyd 8 adroddiad trosedd traffig i yrwyr heb yswiriant, gyrwyr heb MOT, pobl a oedd yn goryrru neu bobl a oedd yn defnyddio ffôn tu ôl i’r olwyn
Cyhoeddwyd adroddiad trosedd traffig ar gyfer cerbyd a oedd mewn cyflwr peryglus
Cyhoeddwyd adroddiad trosedd traffig ar gyfer trosedd yswiriant
Atafaelwyd un car
Hon oedd yr ail ymgyrch o’i fath i gael ei chynnal ar hyd yr heol arfordirol yn ystod yr wythnosau diwethaf, a bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa.
Dywedodd y Rhingyll Lucas: "Parodd yr ymgyrch tua dwy awr a hanner yn ystod cyfnod prysur yn yr ardal honno, ac roedd hi’n llwyddiannus iawn.
"Yr oedd yn enghraifft ardderchog o waith amlasiantaeth ar gyfer mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan y gymuned.
"Yr adeg hon o’r flwyddyn, yn draddodiadol, yr ydym yn gweld cynnydd aruthrol o ran traffig ar ein ffyrdd, ac yn anffodus, mae nifer y gwrthdrawiadau difrifol yr ydym yn mynd iddynt hefyd yn codi. Wrth gwrs, yr ydym eisiau osgoi hyn, felly mae unrhyw lefel o ymgysylltiad ac addysg y medrwn ddarparu’n gadarnhaol.”