Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd hyd i ddwy ferch yn eu harddegau yn ystod oriau mân y bore gyda diolch i ymholiadau digidol a dau swyddog heddlu â llygaid barcud.
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad yn adrodd bod dwy ffrind – 13 a 14 oed – ar goll tua 11pm nos Lun, Mai 31.
Dwedwyd bod y merched wedi colli’r trên roedd disgwyl iddynt ei ddal adref o Gaerfyrddin, ac nad oedd bellach modd cysylltu â nhw dros y ffôn.
Aeth swyddogion yn syth i’r orsaf trên i siarad gyda staff mewn ymgais i sefydlu a oedd y merched yno o hyd, neu i ba gyfeiriad yr oeddynt wedi mynd wrth adael.
Meddai’r Rhingyll Stuart Davies: “Roedd pryder y rheini’n amlwg yn cynyddu ynghylch y merched, yr oedd disgwyl iddynt gyrraedd adref am 9.30 ac nad oedd neb wedi eu gweld na chlywed ganddynt awr a hanner yn ddiweddarach.
“Tasgiwyd yr holl adnoddau a oedd ar gael i chwilio amdanynt a sicrhau eu bod yn cael eu canfod yn ddiogel – gan gynnal chwiliadau ar y ddaear, yn ogystal â chyflawni ymholiadau teledu cylch cyfyng a dros y ffôn.”
Rhoddodd ymholiadau cychwynnol yn yr orsaf ddisgrifiad cliriach i swyddogion o’r merched a beth roeddynt yn gwisgo, a’r awgrymiad eu bod wedi trefnu i dacsi fynd â nhw adref.
Gwnaethpwyd galwadau i gwmnïau tacsi yn yr ardal, ond sefydlwyd yn gyflym nad oedd y merched wedi cael eu casglu.
Adolygwyd ffilmiau o gamerâu teledu cylch cyfyng yr heddlu, a gwelwyd y merched yn cerdded tuag at ganol y dref tua 9.30pm. Sefydlodd gwaith digidol pellach bod eu ffonau wedi cysylltu ddiwethaf â mast ger Tesco, gan roi ardal fwy cryno i swyddogion ganolbwyntio arni.
Meddai’r Rhingyll Davies: “Er bod yr ymholiadau hyn wedi rhoi mwy o wybodaeth i ni weithio gyda hi, roedd yr amser a oedd wedi pasio ers y gwelwyd y merched ddiwethaf gan unigolyn neu ar deledu cylch cyfyng yn sylweddol, ac roeddynt wedi eu nodi’n bobl ar goll risg uchel oherwydd eu hoedran.
“Roedd nifer o alwadau eraill hefyd yn cael eu derbyn gan ystafell reoli’r heddlu yn ystod yr amser hwn, a oedd angen ymateb brys gan yr heddlu. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymdrin yn briodol gyda’r chwiliad, fe wnaethom alw ein cydweithwyr o dîm Rhydaman i mewn i gynorthwyo.
“Ar un adeg roedd gennym hyd at 15 o swyddogion naill ai ar y ddaear neu yn yr ystafell reoli’n cynnal ymholiadau er mwyn canfod y merched.”
Am 2.30am, siaradodd swyddogion gyda phobl yng nghanol y dref a oedd yn meddwl eu bod wedi gweld y pâr awr yn gynharach yn Sgwâr Nott.
O’r diwedd cafwyd hyd iddynt gan ddau Gwnstabl yr Heddlu yn nhir y castell am 2.50am – dros bump awr ers roedd disgwyl iddynt gyrraedd adref.
“Roedd hwn yn ganfyddiad da gan ein cydweithwyr, a ddaeth o hyd i’r merched yn ddiogel ac yn iach a mynd â nhw adref i’w teuluoedd a oedd yn teimlo rhyddhad mawr o’u gweld,” meddai’r Rhingyll Davies.
“Roedd y modd y gwnaeth cydweithwyr gynnal y chwiliad yn enghraifft ragorol o waith tîm, gan ddechrau gyda gwybodaeth gyfyngedig iawn, ond dangos sut y gall gweithio’n ddiwyd a chynnal ymchwiliad trwyadl arwain at ganlyniad llwyddiannus.”