Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a anfonodd negeseuon bygythiol at ddioddefwr cyn ymosod yn ffyrnig arno â chyllell, wedi cael ei garcharu am dros ddwy flynedd.
Arestiwyd Nathan James Lee Clarke gan Heddlu Dyfed-Powys lai na hanner awr ar ôl i’r ymosodiad yn Ystâd Ddiwydiannol Llwynhelyg gael ei riportio ar 12 Awst, 2019.
Dywedodd y dioddefwr ei fod wedi bod yn gweithio ar faes y sioe pan dderbyniodd neges destun gan ei gyn-bartner yn gofyn am gyfarfod. Gyrrodd i’w gweld a pharcio wrth ymyl ei char, pan ymddangosodd Clarke a hyrddio ei hun ato gyda chyllell.
Bu ymladd rhwng y ddau, a chafodd y dioddefwr ei daro â dwrn a phen y diffynnydd ac fe’i gadawyd â chlwyf uwchben ei lygad.
Llwyddodd y dioddefwr i ddod allan o’r fan pan aeth Clarke â bat pêl fas a dechrau malu’r ffenestr flaen, y prifolau a’r drws ochr, cyn cael ei yrru o’r lleoliad.
Dywedodd swyddog yr achos, PC Matthew Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig o dreisgar a achosodd niwed i wyneb y dioddefwr, ynghyd â’i law a’i gefn. Achosodd hefyd ddifrod sylweddol i’r fan yr oedd ynddi.
“Y flaenoriaeth ar gyfer y swyddogion a aeth i’r lleoliad oedd sicrhau ei ddiogelwch, gan hefyd wneud yn siŵr bod pob darn hanfodol o dystiolaeth yn cael ei sicrhau’n gyflym.
Daeth nifer o swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â’r uned gŵn, gyda Samson y Ci Heddlu yn dod o hyd i’r gyllell, oedd â llafn pedair modfedd, yn y tyfiant gerllaw.
“Roedd hyn yn cyfateb i’r llun o arf yr oedd Clarke wedi’i anfon at y dioddefwr yn y dyddiau’n arwain at yr ymosodiad lle’r oedd wedi bygwth ei guro a’i drywanu.”
Cafodd bat pêl fas a thwb plastig a oedd yn cynnwys powdr gwyn yr oedd Clarke wedi’i waredu, eu hatafaelu hefyd. Cadarnhawyd mai cocên oedd y powdr gwyn, gyda gwerth stryd o £3,700.
Daethpwyd o hyd i Clarke, 27, o Dreletert, bron i ddwy filltir o leoliad yr ymosodiad, ac fe’i harestiwyd ar unwaith.
Tra’r oedd yn y ddalfa, gwnaeth nifer o sylwadau arwyddocaol yn ei gysylltu â’r ymosodiad, gan gynnwys “dydw i ddim wedi gwneud dim o’i le ar wahân i chwalu ei fan gyda bat a wnes i ei daro ddwywaith”.
Yn seiliedig ar y gryfder y dystiolaeth yn cysylltu Clarke â’r ymosodiad, a’i DNA yn cael ei ddarganfod ar y twb o gocên, fe’i cyhuddwyd o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol, bod â llafn yn ei feddiant, difrod troseddol a bod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Cyfaddefodd y pedwar cyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe ar 17 Mehefin ac fe’i dedfrydwyd i 29 mis yn y carchar.
“Roedd hwn yn ymchwiliad hir a manwl i’r ymosodiad a’r meddiant o gocên, ac roeddem wedi gallu profi i Wasanaeth Erlyn y Goron a’r llys nad oedd yn swm yn gyson â defnydd personol, fel y ceisiodd Clarke ddadlau,” meddai PC Davies.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymroddiad i ddilyn pob trywydd ymholi er mwyn sicrhau’r cyhuddiadau, ac am eu hymrwymiad wrth wynebu’r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig.”