Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a dorrodd i mewn i dŷ dynes a mynd mewn i’w gwely wrth iddi gysgu wedi ei garcharu am ychydig dros ddwy flynedd.
Gadawodd Phillip George Ronald Lightfoot y dioddefydd yn crynu ac yn bryderus ar ôl y digwyddiad, a ddigwyddodd yn ystod oriau mân y bore ar 23 Mawrth 2021.
Arestiwyd y dyn 23 oed gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn ei gartref yn Aberhonddu awr yn unig ar ôl iddynt dderbyn adroddiad am y drosedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Christine Beaton: “Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o ofidus ar gyfer y dioddefydd, a gafodd ei deffro am 3 o’r gloch y bore i ganfod y diffynnydd wrth ei hymyl yn y gwely.
“Yn ddiweddarach, cyfaddefodd ei fod wedi sefyll yn ei gwylio am tua dwy funud, ond gwrthododd gadarnhau beth oedd ei fwriad yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r ymddygiad hwn yn annifyr, ac roedd yn destun pryder mawr i swyddogion, a gadwodd hyn mewn cof yn ystod eu hymholiadau.
“Fe wnaeth ond gadael pan darfodd y dioddefydd arno. Dychwelodd ychydig wedi hynny ag eitemau yr oedd wedi’u cymryd o gartref y dioddefydd.”
Yn ffodus, roedd y dioddefydd wedi troi golau ymlaen tra bod y dioddefydd yn ei chartref ac fe’i hadnabyddodd fel Phillip Lightfoot. Rhoddodd hyn gyfle i’r heddlu ei arestio’n gyflym iawn ar ôl derbyn adroddiad am y digwyddiad y diwrnod canlynol.
Wrth iddo gael ei arestio, fe wnaeth Lightfoot sylw arwyddocaol â’i gysylltodd â’r drosedd. Dywedodd wrth swyddogion, “Ni wnes i dorri i mewn, roedd y drws ar agor.”
Datgelodd ymholiadau digidol nifer o negeseuon digymell wrth Lightfoot i’r dioddefydd, yn ogystal â chwiliadau rhyngwryd a oedd yn awgrymu bod diddordeb ganddo mewn menywod hŷn.
Cafodd ei gyhuddo â’r fyrgleriaeth y diwrnod canlynol ac fe’i gadwyd yn y ddalfa hyd nes ei fod yn ymddangos yn y llys.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Beaton: “Er mwyn cefnogi’r dioddefydd, rhoddwyd cyngor ynghylch diogelu iddi, a sicrhaodd swyddogion bod mesurau diogelwch wedi’u rhoi mewn grym yn ei chartref.
“Rhoddwyd cyfle hefyd iddi wneud cais am orchymyn atal er mwyn lleddfu ei phryderon ynglŷn â’r diffynnydd yn cael ei ryddhau yn ôl i’r gymuned, ac fe dderbyniodd hi’r cyngor hwnnw.
“Yr ydym yn gobeithio bod y gosb a roddwyd i Lightfoot yn cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl.”
Ar ddydd Gwener 11 Mehefin, dedfrydwyd Lightfoot i 28 mis o garchar. Yn ogystal, rhoddwyd gorchymyn atal iddo am 10 mlynedd, ac mae’n rhaid iddo dalu gordal dioddefydd o £190.