Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn gyfarwyddwr Castell Aberteifi wedi’i ddedfrydu i 21 mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, ar ôl dwyn a thwyllo’r prosiect adfer o dros £40,000.
Cyfaddefodd Jac Owen Davies o Ddôl Dintir, Aberteifi, i ddau achos o dwyll a dau achos o ladrata o Ymddiriedolaeth Cronfa Adeiladau Cadwgan dros gyfnod o ddwy flynedd.
Aeth y dyn 34 oed â £40,624.02 wrth y castell rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Awst 2019.
Codwyd amheuon gan yr ymddiriedolaeth yn ystod haf 2019, pan gysylltwyd â Heddlu Dyfed-Powys i adrodd bod £6,024.79 wedi’i ddwyn o’r coffor.
Dywedodd yr Arolygydd Owen Williams: “Cawsom wybod y dylai’r arian fod wedi’i bancio mewn tri swm ar wahân, ac y dylai fod wedi’i bancio ar y pryd, ond credir ei fod wedi’i roi yn y coffor.
“Roedd cyfarwyddwr y castell, Jac Davies, yn gyfrifol am fancio’r arian hwn, ond ni dynnodd sylw’r ymddiriedolwyr i’r arian coll.
“Sbardunodd yr adroddiad hwn ymchwiliad twyll manwl a barodd 12 mis ac a arweiniodd at ganfod bod llawer mwy o arian wedi mynd ar goll o gyfrifon yr ymddiriedolaeth.”
Ym mis Awst 2019, cyfwelwyd â Davies yn wirfoddol yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi. Yn ystod y cyfweliad, gwadodd ei fod wedi cymryd yr arian. Cynigiodd sawl sefyllfa bosibl a allai fod wedi arwain at yr arian yn mynd ar goll, gan gynnwys amlen yn mynd allan gyda’r sbwriel, neu leidr “siawns” yn cael mynediad i’w swyddfa.
Roedd Tîm Troseddau Economaidd yr heddlu’n gyfrifol am ymchwilio’r cyfrifon a oedd yn gysylltiedig â’r castell – ac am edrych i mewn i honiadau bod y drwgdybyn wedi uno cerdyn credyd yr ymddiriedolaeth â’i gyfrif ei hun.
Chwiliodd swyddogion gartref Davies cyn cynnal ail gyfweliad hefyd, gan ddatgelu sieciau wedi’u gwneud i’r castell.
Dywedodd yr Arolygydd Williams: “Y tro hwn, yn dilyn tri mis o ymholiadau, cyfaddefodd Davies ei fod wedi cael arian o’r ymddiriedolaeth drwy dwyll.
“Honnodd ei fod wedi cael pethau’n anodd a dywedodd ei fod wedi defnyddio cerdyn credyd yr ymddiriedolaeth am resymau personol, gan dynnu arian allan a gwneud trafodion gwerth cyfanswm o £28,000 a newid gwaith papur i guddio ei weithredoedd.
“Fodd bynnag, gan fod yr ymddiriedolaeth wedi gwneud honiadau pellach, parhaodd swyddogion â’u hymchwiliadau er mwyn sicrhau bod pob trosedd bosibl wedi’i hystyried cyn i unrhyw gyhuddiadau gael eu dwyn.”
Yn seiliedig ar dystiolaeth a gafwyd gan y tîm, awdurdododd GEG ddau gyhuddiad o dwyll a dau o ladrad yn erbyn Davies ym mis Mawrth 2021. Cyfaddefodd i’r troseddau hyn yn y llys.
Cafodd ei ddedfrydu i 21 mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, ac fe’i orchmynnwyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl a chwrs adsefydlu yn Llys y Goron Abertawe ar 3 Mehefin.
Dywedodd yr Arolygydd Williams: “Roedd yr ymchwiliad hwn yn gymhleth iawn. Gwelwyd swyddogion o sawl tîm yn gweithio dros gyfnod o flwyddyn er mwyn dwyn Jac Davies i gyfiawnder.
“Yn aml, gall troseddau fel rhain gael eu hystyried yn droseddau heb ddioddefydd, fodd bynnag, cydnabu eu bod yn achosi niwed emosiynol, yn ogystal â niwed ariannol, i’r rhai sy’n gysylltiedig â nhw. Medraf sicrhau’r cyhoedd y byddwn yn cymryd y camau gofynnol ar gyfer dwyn troseddwyr i gyfiawnder.”
Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Adeiladau Cadwgan wedi diolch i Heddlu Dyfed-Powys am ymgymryd ag ymchwiliad trylwyr, ac yn edrych ymlaen at symud ymlaen.