Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a garcharwyd am fod ym meddiant heroin gyda’r bwriad o gyflenwi, wedi cael gorchymyn i ad-dalu £40,500 a enillwyd drwy weithgarwch troseddol.
Cafodd Grzegorz Kramp, o Gomins Coch yng Ngheredigion, ei ddedfrydu ym mis Chwefror i dair blynedd a naw mis yn y carchar yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys.
Clywodd y llys sut roedd y dyn, 45, yn “ddeliwr stryd sylweddol” yn yr ardal ar ôl i’r heddlu stopio ei gar a dod o hyd i werth £10,000 o heroin ynddo.
Yn dilyn ei ddedfrydu, dechreuodd Tîm Troseddau Economaidd yr Heddlu achos Deddf Enillion Troseddau (POCA) yn erbyn Kramp i’w amddifadu o’r enillion a gafodd drwy weithgarwch anghyfreithlon.
Dywedodd yr ymchwilydd ariannol, Rob Thomas: “Cynhaliwyd ymholiadau ariannol fel rhan o’r ymchwiliad, a datgelwyd bod swm sylweddol o arian wedi mynd drwy gyfrif banc y diffynnydd yn y cyfnod yn arwain at ei arestio.
“Rhoddodd hyn sail i ni fynd ar drywydd atafaeliad Deddf Enillion Troseddau, gan ei bod yn amlwg bod Kramp wedi elwa’n ariannol o’i weithgarwch troseddol.”
Ddydd Gwener, 18 Mehefin, cynhaliwyd gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau yn Llys y Goron Abertawe, lle datganodd ei Anrhydedd y Barnwr Huw Rees fod Kramp wedi elwa o £77,179.66.
Gosododd orchymyn atafaelu, gan ei gwneud yn ofynnol i’r diffynnydd dalu £40,500. Bydd hyn yn cael ei rannu rhwng £5,000 a atafaelwyd gan Kramp, ac ecwiti o’i gyfeiriad cartref, sydd i’w werthu o fewn tri mis.
Dywedodd Mr Thomas: "Er mwyn esbonio'r gwahaniaeth yn y swm a enillwyd gan Kramp yn erbyn y swm y gorchmynnwyd iddo ei ad-dalu – rhennir enillion troseddu yn ddau ffigur – y ffigur buddion, sef y swm a enillwyd, a'r swm sydd ar gael, sef faint o arian parod a atafaelwyd neu asedau y gellir eu gwerthu.
"Yn yr achos hwn, mae'r swm buddion dros £77,000, a oedd yn gysylltiedig ag incwm diesboniad yng nghyfrif banc Kramp dros nifer o fisoedd, ond cyfrifwyd mai'r swm sydd ar gael y gellid ei adennill mewn arian parod neu asedau oedd £40,500, sef yr hyn y bydd yn ei ad-dalu'n awr.
"Mae'r gorchymyn hwn yn llwyddiant arall ar ben y ddedfryd wreiddiol oherwydd drwy fynd â’r elw sy'n ariannu troseddu, gallwn helpu i darfu ar y cylch ac atal rhagor o droseddau rhag digwydd."