Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:01 02/06/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys dal yn ymchwilio i’r amgylchiadau o gwmpas marwolaeth sydyn dyn 27 oed yn ardal Laws Street, Doc Penfro, yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn 29 Mai 2021.
Medrwn gadarnhau yn awr mai Michael Edgar o ardal Doc Penfro yw’r dyn a fu farw.
Mae swyddog cyswllt teulu’n cefnogi aelodau o’r teulu. Oherwydd y cyfnod gofidus hwn ar gyfer y teulu, byddem yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu’r amgylchiadau o gwmpas y digwyddiad hwn, ond i gysylltu â’r heddlu os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol. Mae’r teulu hefyd wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae dau ddyn a arestiwyd fel rhan o’r ymchwiliad hwn wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.
Os welsoch chi’r digwyddiad hwn, neu os oes genych unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon ebost ar [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.