Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:07 15/06/2021
Mae tri unigolyn wedi’u harestio wrth i werth hyd at £12,000 o gocên tybiedig gael ei atafaelu yn Aberdaugleddau.
Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys warant mewn tŷ yn y dref nos Wener 11 Mehefin, lle y canfu 122g o’r hyn y credwyd mai cocên ydoedd. Amcangyfrifir bod ganddo werth o £9,760 - £12,200 ar y stryd, gan ddibynnu ar ei burdeb.
Nid oedd deiliad y cyfeiriad – dyn 59 oed – yn bresennol ar y pryd, fodd bynnag, cafodd ei arestio’n ddiweddarach ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu. Y mae wedi’i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau ariannol, digidol a fforensig yn cael eu cynnal.
Wrth i ymholiadau fynd rhagddynt, gwnaeth swyddogion ddau arést arall dros y penwythnos fel rhan o’r ymchwiliad.
Arestiwyd dyn 33 oed o Fanceinion ar amheuaeth o werthu cocên a meddu ar arf bygythiol ar ôl i’r heddlu stopio car yr oedd yn gyrru ar yr A477. Atafaelwyd rhywfaint o bowdwr gwyn gan Heddlu Manceinion Fwyaf yn ystod warant yn y cyfeiriad a roddodd i swyddogion yn y ddalfa.
Arestiwyd dynes 27 oed o ardal Stockport hefyd ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth â’r amod i beidio â mynd i Sir Benfro.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Phillip Jones: “Roedd yr atafaeliad cyffuriau hwn yn arwyddocaol, a byddwn yn parhau â’n hymholiadau gyda golwg ar sicrhau canlyniad cyflym.
“Hoffwn ddiolch i bob swyddog a oedd yn rhan o hyn dros y penwythnos am eu hymrwymiad a’u diwydrwydd.”