Stamp amser presennol: 07/08/2026 00:30:19
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ymddygiad gwrthgymdeithasol gan grŵp o tua 100 o unigolion ifainc ar Mai 28, yng ngorsaf dren Porth Tywyn a Llanelli

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:06 04/06/2021

Ymatebodd yr heddlu i adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yr oedd grŵp o tua 100 o unigolion ifainc yn gysylltiedig ag ef nos Wener 28 Mai yng ngorsaf drenau Porth Tywyn. Aeth swyddogion o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i’r lleoliad ynghyd â SCCH Dyfed-Powys, ond gwaethygodd y sefyllfa ar ôl i’r bobl ifainc (y rhan fwyaf ohonynt wedi meddwi) ddechrau ymddwyn yn ymosodol ac afreolus. Rhannodd y grŵp yn grwpiau llai, ac aeth nifer ohonynt ar y trên i Lanelli.

Dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price: “Aeth dau ringyll ar y trên hefyd er mwyn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach a rhoi tawelwch meddwl i deithwyr eraill a gyrrwr y trên. Yr oeddent mewn cerbyd gyda 30-40 o’r unigolion ifainc, ac yn ystod y daith, bu ymladd rhwng aelodau’r grŵp. Ceisiodd y ddau ringyll eu gwahanu, ac arestio’r drwgdybiedigion. Wynebasant ymddygiad ymosodol a rhwystr, ond yn y diwedd, llwyddodd y swyddogion i wahanu’r troseddwyr rhag gweddill y grŵp. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, ymosododd un o’r drwgdybiedigion ar y ddau ohonynt.

“Arestiwyd nifer am ymosod ac am ymosod ar yr heddlu. Yna, fe wnaeth yr anrhefn barhau ar blatfform gorsaf drenau Llanelli, a chafodd rhagor eu harestio am fod yn feddw ac afreolus ac am droseddau trefn gyhoeddus.

“Parhaodd yr ymddygiad ymosodol yn erbyn swyddogion, a gwrthododd sawl un adael er bod rhai wedi derbyn hysbysiad gwasgaru a chyfarwyddyd i adael. Gan hynny, roedd yn rhaid i swyddogion ddefnyddio grym i’w symud o’r platfform i’r stryd.

“Fe gymerodd amser ac adnoddau sylweddol i wasgaru’r bobl ifainc a dod â'r digwyddiad hwn i derfyn diogel, a hynny ar adeg pan fod yna alw mawr am ein hadnoddau beth bynnag. Nid oes esgus dros y lefel hon o anhrefn, ac yn ddealladwy, mae’n achosi pryder a gofid i’r gymuned a phreswylwyr.”

Aed â’r unigolion a arestiwyd adref at eu rhieni. Byddant yn cael eu trin yn ddiweddarach gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, a fydd yn arwain yr ymchwiliad.

Ychwanegodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price: “Byddem yn apelio’n uniongyrchol i rieni fod yn ymwybodol o leoliad eu plant a’r hyn maen nhw’n ei wneud. Ni ddioddefir ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r fath, ac anogwn rieni i fod yn atebol am weithredoedd eu plant.

“Yr ydym wedi derbyn galwadau gan breswylwyr ym Mhorth Tywyn sy’n poeni am ymddygiad grwpiau mawr o bobl ifainc yn y dref ers cryn amser, ac fe’u hanogwn i barhau i ddweud wrthym am ymddygiad o’r fath. Cymerwyd camau rhagweithiol ar gyfer mynd i’r afael â hyn. Yr ydym wedi rhoi adnoddau ychwanegol ar waith er mwyn caniatáu i swyddogion ymateb yn gyflym, ac rydym yn parhau i wneud hynny.”  

Dywedodd Cwnstabl Rhys Lewis o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Mae ein swyddogion, a rhwydwaith o gamerâu TCC, yn monitro’r rheilffordd 24/7.

“Ein prif flaenoriaeth yw cadw teithwyr a swyddogion rheilffordd yn ddiogel, ac ni ddioddefir ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd swyddogion gennym yn cynnal patrolau amlwg yn y lleoliadau hyn dros y penwythnos, ac rydym yn gweithio’n agos â’n partneriaid yn Heddlu Dyfed-Powys a Thrafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n teithio’n medru gwneud hynny’n ddiogel.

“Gall unrhyw un sy’n profi problemau wrth deithio anfon neges destun atom ar 61016 neu’n galw ar 0800 40 50 40.”

Mae Tîm Plismona Bro Llanelli’n cynnal patrolau amlwg yn yr ardal, gyda chymorth swyddogion ymateb, gan batrolio ardaloedd sy’n boblogaidd ymysg pobl ifainc. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos â’n partneriaid, megis yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac ni fyddwn yn oedi i wasgaru grwpiau.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.