Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:01 15/06/2021
Gwelodd yr heddlu ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â phobl ifainc yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos, yn dilyn wythnosau o weithgarwch uwch.
Patroliodd Heddlu Dyfed-Powys ardaloedd sydd wedi dod yn fannau problemus yn ddiweddar o ran pobl ifainc yn eu harddegau’n ymgasglu ac yn yfed alcohol fel rhan o ymgyrch barhaus yn rhagweithiol.
Cynhaliwyd presenoldeb heddlu ar drenau rhwng Llanelli a Chaerfyrddin hefyd er mwyn nodi faint o unigolion ifainc oedd yn teithio yn yr ardal a ble’r oeddent yn gadael y trên.
Dywedodd y Rhingyll Gemma Davies: “Dros y penwythnos, parhaodd ein gwaith i dargedu, atal ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed dan oed mewn mannau problemus a nodwyd yn Llanelli a Phorth Tywyn yn bennaf.
“Rhoddwyd gorchmynion gwasgaru adran 34 mewn grym cyn y penwythnos, a oedd yn golygu’n bod ni’n medru symud unrhyw un a oedd yn debygol o ymddwyn yn wrthgymdeithasol ymlaen, ond yn ffodus, nid oedd eu hangen. Mae hyn yn welliant ar benwythnosau blaenorol pan fu’n rhaid inni arfer y pwerau hyn.
“Siaradwyd â nifer o bobl ifainc. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gyfeillgar, ac nid oeddent o dan ddylanwad alcohol nac yn achosi unrhyw ffwdan.
“Cydnabu aelodau o’r cyhoedd y presenoldeb heddlu uchel, fel y gwnaeth y bobl ifainc, a gallai hyn fod wedi atal yfed dan oed.
“Yr ydym yn falch iawn o fod wedi gweld y newid o ran agwedd ac ymddygiad y penwythnos hwn.”
Derbyniodd yr heddlu un alwad yn unig yn adrodd am bobl ifainc yn ymgasglu ger harbwr Porth Tywyn. Ni welodd y swyddogion a aeth i’r lleoliad unrhyw droseddau nac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
O’r bobl ifainc y siaradwyd â nhw yn ystod y penwythnos, canfu alcohol ym meddiant dau. Atafaelwyd yr alcohol hwnnw. Bydd llythyrau ymddygiad gwrthgymdeithasol dilynol yn cael eu cyhoeddi, a bydd ymweliadau cartref yn cael eu cynnal cyn hir.
Atgoffwyd grwpiau am beryglon nofio ger yr harbwr hefyd, ac fe’u hanogwyd i fynd â’u sbwriel gartref.
Hebryngodd swyddogion ar y rhwydwaith rheilffyrdd un oedolyn meddw oddi ar y trên.
Dywedodd y rhingyll Davies: “Hoffwn ddiolch i bob swyddog a oedd yn gysylltiedig â’r ymgyrch dros y penwythnos, yn ogystal â’r bobl ifainc a sicrhaodd eu bod nhw’n aros o fewn y gyfraith wrth fwynhau’r tywydd.
“Byddwn ni ar hyd y lle eto’r penwythnos nesaf a thrwy’r haf, gan sicrhau bod yr ardal yn bleserus i bawb sy’n ymweld â hi.”