Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dilynodd yr heddlu ddyn a yrrodd i ffwrdd o Gaerfyrddin ar gyflymder o 100mya mewn fan a oedd wedi’i dwyn ar ôl ei gyrru i mewn i siop a dwyn gwerth £2500 o emwaith.
Galwyd Heddlu Dyfed-Powys i siop Pandora ar Heol Awst ychydig cyn 6 o’r gloch fore ddydd Mawrth 4 Mai, lle y defnyddiwyd fan Ford Transit i yrru am yn ôl drwy’r llenni diogelwch.
Darganfu bod Alexander Griffiths wedi achosi gwerth £40,000 o ddifrod i flaen y siop, ac wedi rhedeg i ffwrdd â gwerth £2500 o stoc.
Roedd 126 o droseddau ar gofnod y troseddwr yn barod, ac roedd ond wedi bod allan o’r carchar am ychydig fisoedd yn dilyn digwyddiad arall a arweiniodd at yr heddlu’n ei ddilyn ar gyflymder.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Paula Jones-Clarke: “Pan gyrhaeddodd swyddogion Heol Awst, gwelsant fod fan, a oedd wedi gadael y lleoliad, wedi gyrru i mewn i flaen y siop.
“Yn ffodus, roedd rhywun a oedd yn y cyffiniau wedi rhoi gwybod inni am y digwyddiad ac wedi nodi rhif cofrestru’r cerbyd, ac roedd modd inni gynnal ymholiadau chwim iawn i ddod o hyd iddo.
“Dilynodd swyddogion Griffiths – a yrrodd ar gyflymder o 100mya – ar hyd ffordd ddeuol yr A48 a’r M4 tuag at Abertawe, gan gadw cysylltiad ardderchog a’u cydweithwyr yng nghanolfan gyfathrebu’r heddlu, felly cawsant y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r digwyddiad fynd rhagddo.
“Ar ôl carlamu ar hyd llain galed y draffordd a gyrru’r ffordd anghywir, â thraffig yn dod tuag ato, gadawodd y diffynnydd y cerbyd a rhedeg i ffwrdd. Aethpwyd ar ei ôl ar droed ac fe’i harestiwyd.”
Er na wnaeth unrhyw sylw yn ystod cyfweliadau gyda’r heddlu, cyfaddefodd Griffiths, o Heol Gwallter, Abertawe, i gymryd cerbyd o natur ddifrifolach, byrgleriaeth, gyrru peryglus a gyrru heb yswiriant na thrwydded pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu.
Disgrifiodd y Barnwr Geraint Walters y diffynnydd fel rhywun a oedd wedi ‘ymrwymo ei hun i oes o droseddu’, a bod y fyrgleriaeth ei hun ‘wedi ei threfnu’n ofalus’ ac yn ‘eofn’.
Dedfrydwyd Griffiths i bedair blynedd o garchar, cafodd ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd, a rhaid iddo gwblhau prawf gyrru estynedig cyn y caiff ei drwydded yn ôl.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Jones-Clarke: “Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn – o’r tîm plismona’r ffyrdd a ddangosodd sgiliau ymlid rheoledig a pharhaus wrth ddilyn cerbyd Griffiths, i’r swyddogion a roddodd y ffeil dystiolaeth gref, a arweiniodd at ei bledion euog, at ei gilydd yn gyflym.
“Ni ddangosodd Griffiths unrhyw ystyriaeth tuag at ddiogelwch y cyhoedd wrth iddo yrru ar ben y cwrbyn ar gyflymder er mwyn cael mynediad i’r siop, ac wrth iddo yrru mor ddi-hid ar hyd traffordd a ffordd ddeuol brysur.
“Mae’r ffaith ei fod ar drwydded ar gyfer digwyddiad blaenorol, a oedd hefyd wedi arwain at yr heddlu’n ei ymlid, yn pwysleisio’r perygl mae’n cyflwyno i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.”