Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Mae marwolaethau ar y ffyrdd a achosir gan y Pum Angheuol yn achosi canlyniadau dinistriol; nid yn unig ar y rhai sy'n gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, ond hefyd ar y cylch ehangach o deulu a ffrindiau. Maent i gyd yn ddewisiadau ac os dewisodd pawb yrru'n ddiogel, i wneud diogelwch yn ddewis nid yn siawns, yna gallem weld llai o drasiedi ar ein ffyrdd"
Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe
Yn 2019, lladdwyd 94 o bobl mewn gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd ac fe anafwyd 963 o bobl yn ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Gall goryrru, defnyddio ffôn symudol, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru heb ofal dyladwy a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau oll arwain at wrthdrawiadau angheuol a difrifol.
Rhwng 19fed a 25ain o Ionawr 2021, cynhaliwyd Ymgyrch Y Pum Angheuol ar draws Cymru; gyda chydweithwyr a phartneriaid o bob un o'r pedwar llu Heddlu yn gweithredu drwy addysgu a gorfodi'r Pum trosedd Angheuol.
Dewisiadau anniogel neu wael yw prif achosion y troseddau hyn, a nod yr ymgyrch oedd annog mwy o yrwyr i feddwl am eu hymddygiad a newid eu hagwedd tuag at y rhan y gallant ei chwarae wrth gadw ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr ffordd.
Lansiwyd yr ymgyrch ar y 19eg I Ionawr gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn drwy sesiwn drafod a holi ac ateb Facebook Live rhyngddo ef, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis o Heddlu De Cymru, a Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn:
"Roedd yn wych lansio'r ymgyrch Pum Angheuol ym mis Ionawr yn ystod fy ymgyrch gymunedol rithiol, yn fyw ar Facebook gyda Teresa Ciano o GanBwyll, ac ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru, ac roedd yn braf cael ymateb cadarnhaol gan y cyhoedd i'n trafodaethau. Gall y pum llinyn angheuol oll arwain at ganlyniadau dinistriol; nid yn unig ar y rhai sy'n gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, ond hefyd ar y cylch ehangach o deulu a ffrindiau. Rwy'n gobeithio, drwy ymgyrchoedd fel y Pum Angheuol, y gallwn gydweithio i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol a sicrhau bod ein ffyrdd yn dod yn fwy diogel".
Mae Swyddogion Lleihau Anafiadau GanBwyll yn targedu tair o'r Pum elfen Angheuol yn ddyddiol, ac ynghyd â'n cydweithwyr ar draws pedwar llu Heddlu Cymru, cofnodwyd y troseddau canlynol ar ffyrdd Cymru gydol yr ymgyrch:
Yn ystod yr ymgyrch wythnos o hyd, recordiwyd cyfanswm o 1,381 o droseddau adroddadwy gyda 102 o rybuddion gyrrwr wedi'u rhoi a gwnaed 58 o arestiadau yn gysylltiedig a gyrru dan ddylanwad alcohol neu cyffuriau.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis, Arweinydd Strategol Plismona'r Ffyrdd yng Nghymru:
"Bu swyddogion yn rhagweithiol wrth wneud ffyrdd ledled Cymru yn lle mwy diogel i bob defnyddiwr ffordd.
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys swyddogion plismona'r ffyrdd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o luoedd eraill, sydd rhyngddynt eleni wedi delio â llawer o wrthdrawiadau traffig angheuol a difrifol ar y ffyrdd.
Rydym yn bwriadu parhau â'r gweithrediadau hyn gyda chefnogaeth ein partneriaid i sicrhau bod ein cymunedau'n gweld gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau. Hoffwn ddiolch i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ffordd sy'n gyrru'n ofalus ac yn parchu eraill."
Nod strategol GanBwyll yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel a lleihau anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r Ymgyrch Pum Angheuol, a thrwy godi ymwybyddiaeth o sut y gall newid mewn ymddygiad ac agwedd arwain at daith fwy diogel i bob defnyddiwr ffordd, ein nod yw annog mwy o fodurwyr, o bob oed, i wneud y dewis diogel a helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.