Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:34 01/03/2021
Wrth inni alaru am y Rhingyll Lynwen Thomas, cynhaliwyd gwasanaeth coffa i anrhydeddu ei bywyd a rhoi diolch am ei hymroddiad i Heddlu Dyfed-Powys.
Gan siarad o’r Ardd Goffa ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, disgrifiodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter y llawenydd ddaeth y Rhingyll Thomas i’w chydweithwyr, yn ogystal â thristwch yr heddlu yn dilyn y drasiedi.
“Byddwn ni’n trysori’r llawenydd hwnnw a, byth; bydd yr atgofion amdani byth yn marw,” meddai’r Prif Gwnstabl Dros Dro Parmenter.
Cynhaliwyd munud o dawelwch i gofio am y Rhingyll Thomas ac i feddwl am ei hanwyliaid.
Yna, darllenodd y Prif Arolygydd Elaine Bendle bennill â’r teitl I Lynwen, gan ddisgrifio ei chyn gydweithwraig fel arwres a’r “ddynes fwyaf anhunanol o bell ffordd.”
Daeth Tom Evans, caplan heddlu ymddeoledig, a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, â’r gwasanaeth i ben â gweddi a gras.
Er mwyn galluogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan farwolaeth y Rhingyll Thomas i gael cysur o’r gwasanaeth, mae ei theulu yn garedig wedi caniatáu i recordiad gael ei rannu â chydweithwyr a ffrindiau y tu allan i’r heddlu.
For Lynwen
There are heroes who walk among us
Never looking for glory or praise
They don't seek recognition
For their thoughtful, caring ways.
Living lives of deep commitment
Providing for those they hold dear
Steadfast with a quiet strength
Through times of laughter & tears.
Lynwen was a person like that to me
The most selfless woman by far
So Lynwen I'd like to thank you
For being the hero that you are