Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddynes ddioddef ymosodiad rhywiol yn y Drenewydd ddydd Mawrth 23 Mawrth.
Roedd y ddynes ar lwybr y gamlas ger y warchodfa natur tua 4.50 o’r gloch y prynhawn hwnnw pan aeth dyn i fyny ati ac ymosod arni.
Ar ôl yr ymosodiad, rhedodd y dyn, a oedd wedi cerdded o gyfeiriad Llanllwchaearn, i ffwrdd tuag at gyfeiriad y Drenewydd.
Fe’i disgrifir fel dyn croenwyn 5’7” o gorffolaeth ganolig yn ei 20au hwyr/30au cynnar. Yr oedd yn gwisgo hwdi du â sip, trwser du ac esgidiau rhedeg du â gwadnau gwyn. Roedd ganddo acen Seisnig ac roedd ei lais yn arbennig o ddwfn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Fay Lantos, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae digwyddiadau o’r fath yn brin iawn yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae swyddogion yn gweithio’n galed i ddal y dyn. Oherwydd hyn, gall aelodau o’r cyhoedd weld cynnydd ym mhresenoldeb swyddogion heddlu yn yr ardal yn ystod y dyddiau i ddod.
“Gall unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth a allai helpu’n hymchwiliadau siarad â’r swyddogion hynny.”
Fel arall, gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys gan ddyfynnu cyfeirnod DPP/0057/23/03/2021/01/C.
Gellir gwneud hyn ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.