Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:04 12/03/2021
Arweiniodd teimlad Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu a Swyddog Trin Cŵn bod rhywbeth o’i le at ddarganfod menyw oedd yn cuddio mewn hen eglwys adfeiliedig.
Roedd SCCH Llanelli Wledig Sophie Jones a swyddog trin cŵn y Cwnstabl Mike Barnsley yn rhan o dîm o swyddogion a dreuliodd saith awr yn chwilio am fenyw y derbyniwyd adroddiad ei bod ar goll ar nos Fercher.
Gyda chefnogaeth Gwylwyr y Glannau a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymestynnodd yr ymgyrch o ardaloedd Llwynhendy a Llwchwr wrth i bob ymholiad posibl gael eu cyflawni i ddod o hyd i’r fenyw risg uchel oedd ar goll.
Meddai’r Rhingyll Gemma Davies: “Derbyniwyd adroddiad gan gymar y fenyw ei bod ar goll tua 5.30pm, ac nid oedd wedi ei gweld am nifer o oriau erbyn yr amser hynny.
“Roedd ei bryder yn cynyddu gan iddi adael ei ffôn a’i chardiau banc ar ôl, a gan y byddai hi fel arfer wedi dychwelyd adref ar ôl bod am dro ymhell cyn hynny.
“Fe wnaethom gychwyn ymholiadau i ddod o hyd iddi ar unwaith.”
Cyflawnwyd chwiliad o’i chyfeiriad cartref wrth i swyddogion chwilio am unrhyw arwydd o ble y gallai’r fenyw fod wedi mynd, ac i ganfod a oedd ganddi fynediad at gerbyd neu a oedd hi ar droed. Yn y cyfamser, aeth swyddogion ar hyd llwybrau cerdded roeddem yn gwybod ei bod fel arfer yn eu defnyddio.
Sefydlodd ymholiadau mai’r tro olaf i’r fenyw gael ei gweld oedd gan gymydog am 2.45pm – tair awr cyn y derbyniwyd adroddiad ei bod ar goll.
“Erbyn yr amser hwn roedd hi eisoes yn dywyll, ac roedd y tywydd yn wael,” meddai’r Rhingyll Davies.
“Ein pryder oedd ei bod wedi bod yn mynd i gyfeiriad Llwchwr, ac efallai ei bod wedi mynd i’r dŵr.
“Fe wnaethom wirio gyda phob ysbyty lleol rhag ofn ei bod wedi cael ei tharo’n sâl neu gael ei hanafu mewn unrhyw ffordd, fe wnaethom chwilio’r caeau a thir ysgolion, chwiliodd Gwylwyr y Glannau'r ardaloedd ar hyd ymyl yr aber, ond doedd dim sôn amdani.”
Ar ôl saith awr, a gyda nifer o swyddogion nawr yn rhan o’r chwilio, sylwodd SCCH Sophie Jones a’r Cwnstabl Mike Barnsley fod gât hen eglwys adfeiliedig yn gilagored.
Gan feddwl bod hwn yn edrych yn anarferol, aethant i mewn i dir yr eglwys.
Meddai’r Rhingyll Davies: “Talodd eu teimlad ei fod yn rhyfedd bod y gât ar agor ar ei ganfed. Fe wnaethant chwilio y tu allan i’r eglwys yn ofalus iawn, ac yn y diwedd cawsant hyd i’r fenyw y tu mewn i’r adeilad – wedi ei hypsetio, ond yn ddiogel ac yn iach.
“Roedd hwn yn waith greddfol gwych, ac er bod nifer fawr o swyddogion yn rhan o’r chwiliad ac iddynt i gyd weithio’n eithriadol o galed drwy sifft prysur dros ben, rhaid rhoi sylw arbennig i SCCH Jones a’r Cwnstabl Barnsley am eu hymdrechion.”