Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi derbyn dedfryd o garchar ar ôl mynd ag anghydfod gyda’i gymydog mor bell fel y taflodd fomiau tân cartref ar eu dreif.
Cyhuddwyd Francis Collins o Glunderwen, Sir Benfro, o stelcio’n ymwneud ag ofn trais neu ofid neu fraw difrifol, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys i’w ran mewn anghydfod blwyddyn o hyd dros berchnogaeth darn o dir.
Derbyniodd pâr mewn eiddo cyfagos lwyth o e-byst bygythiol gan y dyn 35 oed.
Anfonwyd yr e-byst yn ddienw, ond roeddent yn amau’n gryf mai Collins oedd wedi’u hanfon.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl o Heddlu Dyfed-Powys, a arweiniodd yr ymchwiliad: “Anfonwyd llwyth o e-byst at y pâr, dioddefasant gam-drin geiriol, ac yna dwysaodd yr aflonyddu a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Ym mis Mawrth 2020, dywedodd y pâr bod rhyw fath o ddyfais ffrwydrol wedi’i thaflu ar eu dreif yn ystod y nos.
“Yn amlwg, achosodd hyn gryn bryder i’r pâr, ac fe wnaethant gysylltu â’r heddlu’n syth.”
Aeth swyddogion i leoliad y digwyddiad, a sefydlwyd bod tair dyfais wedi’u taflu tros y ffens.
Ffrwydrodd un, torrodd un arall, ac arhosodd y drydedd ddyfais yn gyfan.
Archwiliwyd y dyfeisiau am dystiolaeth fforensig gan swyddogion arbenigol.
Arweiniodd chwiliad o dŷ Collins at swyddogion yn dod o hyd i jariau gwydr fel y rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer y bomiau petrol, cemegau, a llyfr ynglŷn â sut i wneud potel tân cemegol.
Archwiliwyd cyfrifiadur a ffonau symudol gan uned ddigidol yr heddlu. Dangoswyd chwiliadau rhyngrwyd yn ymwneud â dyfeisiau o’r fath, a chyfrifon e-bost dienw’n cael eu sefydlu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl: “Yn ystod yr ymchwiliad, rhoddwyd mecanweithiau cymorth mewn grym ar gyfer y dioddefwyr er mwyn sicrhau eu diogelwch, tra bod Collins hefyd wedi dechrau anfon nifer fawr o e-byst yn barnu natur ein hymholiadau.
“Arhosodd swyddogion yn broffesiynol ac ymroddedig, ac o ganlyniad i ymchwiliad trylwyr, cyhuddwyd Collins o stelcio’n ymwneud ag ofn trais neu ofid neu fraw difrifol.”
Ymddangosodd Collins o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 22 Mawrth, lle y plediodd yn euog i’r drosedd.
Rhoddwyd dedfryd o 425 diwrnod o garchar iddo. Oherwydd yr amser yr oedd wedi treulio ar remand yn y carchar, mae Collins wedi cwblhau ei ddedfryd yn awr.
Gweithredwyd gorchymyn atal am gyfnod amhendant hefyd, sy’n ei atal rhag cysylltu â’r dioddefwyr. “Roedd hwn yn ymchwiliad hir a manwl i ymosodiad parhaus Collins yn erbyn y dioddefwyr, a welodd ei ymddygiad yn dwysau dros nifer o fisoedd,” meddai’r Ditectif Gwnstabl.
“Roedd y dioddefwyr wedi symud i’r ardal er mwyn mwynhau bywyd tawel yn y wlad. Yn lle hynny, cawsant eu hunain yn ddioddefwyr aflonyddu.
“Yr ydym yn gobeithio bod y ddedfryd yn rhoi rhyw fath o gysur iddynt am y gofid yr achoswyd iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn sicrhau ein cymunedau ein bod ni’n trin ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r natur hwn o ddifri.”