Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a dynes o Aberhonddu wedi’u carcharu am ymosod ar gymydog a ofynnodd iddynt gadw’r sŵn i lawr. Roedd y dioddefwraig yn teimlo’n anniogel yn ei chartref ei hun oherwydd Colin Jenkins a Chelsea Young yn dilyn yr ymosodiad direswm mewn pwll staer yng Nghlos Cradoc. Ymosododd Jenkins ac Young ar y fenyw fregus ar ôl iddi ofyn iddynt beidio curo ar y drws yn ystod oriau mân y bore. Dywedodd y Rhingyll Andrew Rogers o heddlu Aberhonddu: “Roedd y troseddwyr yn gwneud sŵn gormodol drwy glepian drysau a churo arnynt, a ddaeth yn annioddefol i’r dioddefydd, a oedd yn ceisio cysgu. “Gofynnodd iddynt gadw’r sŵn i lawr, gan arwain at ymosodiad direswm, lle y dioddefodd nifer o anafiadau.” Aeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yno’n syth, a chynhaliwyd ymchwiliad trylwyr gydag ymholiadau i’r honiadau o ymosod, yn ogystal â gwrth-honiadau gan y drwgdybiedigion. Arestiwyd Jenkins ac Young yn y fan a’r lle, a rhoddwyd mesurau diogelu mewn grym er mwyn gweithio gyda’r dioddefydd, a oedd yn teimlo’n bryderus ac yn ofni digwyddiadau pellach. Gorchmynnwyd y ddau i ymddangos o flaen Llys Ynadon Bro Morgannwg. Cyhuddwyd Jenkins, 37 oed, ag ymosod drwy guro, ac Young, 24 oed, ag ymosod drwy guro a difrod troseddol. Dedfrydwyd y ddau i 20 wythnos o garchar yr un. Dywedodd y Rhingyll Rogers: “Roedd hwn yn ymchwiliad ardderchog gan swyddog yr achos, gyda chymorth cydweithwyr, a sicrhaodd ganlyniad cadarnhaol ar gyfer y dioddefydd.”