Stamp amser presennol: 07/08/2026 09:32:10
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu dau ddyn am eu rhan mewn ymgyrch twyll negesydd

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:37 17/03/2021

Mae dau ddyn wedi’u carcharu am gymryd rhan mewn twyll negesydd yn dilyn ymchwiliad heddlu manwl dwy flynedd o hyd.

Credwyd bod y pâr yn ffurfio rhan o rwydwaith ehangach o dwyllwyr a oedd yn galw dioddefwyr posibl yn ddiwahoddiad gan honni bod yn swyddogion heddlu.

Cawsant eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys wrth iddynt gyrraedd cartref dynes oedrannus yn Aberhonddu ym mis Mawrth 2019 ar ôl iddi gael ei hargyhoeddi dros y ffôn i dynnu £4000 o’i chyfrif banc.

Roedd y dioddefydd wedi derbyn galwad ffôn gan ddyn a oedd yn honni ei fod yn swyddog heddlu a oedd yn ymchwilio i drosedd twyll. Dywedwyd wrthi fod ei cherdyn banc wedi’i ddefnyddio i dynnu £600 allan a bod dyn wedi’i arestio. Rhoddodd y galwr rif bathodyn a rhif cyfeirnod trosedd ffug iddi dros y ffôn.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Damian Gillespie, swyddog yr achos: “Mynegodd y dioddefydd bryderon mai galwad twyllodrus ydoedd, ac mewn ymdrech i geisio ei darbwyllo mai swyddog heddlu ydoedd, sicrhaodd y galwr hi y gallai alw 999 am gadarnhad.

“Gwnaeth y ddynes hyn, ond gan nad oedd y llinell ffôn wedi’i datgysylltu rhwng galwadau, roedd hi dal yn siarad â’r drwgdybyn, a lwyddodd i’w darbwyllo bod y swyddog a enwyd a’r tîm twyll yn bodoli.”

Ar ôl ennyn ei ffydd, gofynnodd y galwr i’r dioddefydd gefnogi ymchwiliad twyll drwy dynnu £4000 o’i chyfrif banc. Aeth y twyllwr mor bell â dweud wrthi am ddweud bod yr arian ar gyfer adnewyddu’r tŷ pe bai’n cael ei chwestiynu.  

Ar ôl cymryd yr arian allan o’i chyfrif, gofynnwyd i’r dioddefydd ddarllen rifau cyfres tri o’r papurau banc. Dywedwyd wrthi eu bod yn rhai ffug a bod angen i swyddogion eu harchwilio.

“Yn ffodus, roedd hi mor bryderus, dywedodd wrth aelod o’r teulu am y digwyddiad. Rhoddodd yr aelod teulu hwnnw wybod i’r heddlu am y mater,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Gillespie.

“Rhoddodd ei benderfyniad doeth i ddweud wrthym yn syth gyfle i swyddogion ddal y drwgdybiedigion wrth iddynt gyrraedd ei chartref.”

Derbyniodd y dioddefydd nifer o alwadau yn ystod y dydd, a gwnaed trefniadau ar gyfer casglu’r arian o’i chartref. Dywedwyd wrthi y byddai tri dyn yn cyrraedd o gwmpas 5.20y.h.

Roedd swyddogion heddlu mewn dillad cyffredin yn barod amdanynt, ac wrth i gar BMW dynnu i fyny tu allan i’w chartref am 5.25y.h., cafodd y tri deiliad eu dal a’u harestio.

Ar ôl yr arést, parhaodd y dioddefydd i dderbyn galwadau gan rif anhysbys. Amheuwyd bod y galwr yn gysylltiedig â’r tri drwgdybyn.

Rhoddwyd cyngor i’r ddynes ynghylch diogelu rhag twyll i’w hatal rhag dioddef trosedd arall, ac fe’i cyfeiriwyd at wasanaeth Cymorth Dioddefwyr a Thystion Goleudy.

“Yr hyn a ddilynodd oedd ymchwiliad hir a manwl. Yn ystod yr ymchwiliad, profodd data a gafwyd o ffonau symudol y drwgdybiedigion y bu cyfathrebu rhyngddynt,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Gillespie.

“Casglwyd tystiolaeth bellach, a ddefnyddiwyd i sefydlu eu llwybr o Lundain i Aberhonddu ar y diwrnod dan sylw.   

“Arweiniodd y manylion a gafwyd yn ystod yr ymholiadau hyn, ynghyd â gwaith rhagweithiol chwim gan swyddogion o ran dal y troseddwyr yn cyflawni’r drosedd, at achos cryf yn cael ei adeiladu yn erbyn dau o’r tri dyn a arestiwyd.”

Gorchmynnwyd Shane Peter Powell, 27 oed, a Dwayne Godfrey O’Rourke-Fuller, 31 oed, o Fulham yn Llundain, i ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful. Fe’u cyhuddwyd o ddau drosedd o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Roedd un o’r cyhuddiadau’n ymwneud â throsedd a gyflawnwyd yn Dorset.

Fe’u dedfrydwyd i 12 mis o garchar yr un.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gillespie: “Mae’r ddedfryd hon yn nodi diwedd ymchwiliad dwy flynedd o hyd. Roedd sawl adran ar draws Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o’r ymchwiliad, ac roedd diogelu’r dioddefydd wrth galon ein hymholiadau.

“Hoffwn ddiolch i’r dioddefydd am ei chefnogaeth, ac rwy’n ei chanmol am ddweud wrth aelod o’r teulu cyn iddi golli swm sylweddol o arian.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.