Stamp amser presennol: 06/08/2026 22:51:16
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu dyn am ymosodiad treisgar ar swyddog heddlu

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 10:51 31/03/2021

Mae dyn a ymosododd yn ffyrnig ar swyddog heddlu wedi’i garcharu dau ddiwrnod yn unig ar ôl y digwyddiad.

Ymosododd Connaire Parsons o Ystradgynlais ar un o drinwyr cŵn Heddlu Dyfed-Powys mewn lôn yn Ystradgynlais tra bod y swyddog yn ceisio ei arestio am drosedd arall.

Roedd y swyddog wedi ymateb i alwad tua 9.30 o’r gloch nos Sul 28 Mawrth yn adrodd am grŵp o ddynion yn cicio drws ffrynt y galwr ac yn gwneud bygythiadau.

Daethpwyd o hyd i un o’r drwgdybiedigion yn gyflym, ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddefnyddio trais er mwyn cael mynediad i eiddo, meddu ar gyffuriau dosbarth A, aflonyddu, a bygwth cyflawni difrod troseddol.

Aed ag ef i’r ddalfa ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth. Daeth triniwr cŵn o hyd i ddrwgdybyn arall – Parsons, sy’n 23 oed – yn fuan wedi hynny mewn lôn ger yr afon.

Cafodd ei arestio, ac fe ymosododd yn gorfforol ar y cwnstabl heddlu. Pwnodd ef yn ei wyneb sawl gwaith, gan ei daflu i’r llawr a cheisio ei gnoi.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Christine Beaton: “Ymosodiad digymell oedd hwn gan droseddwr mynych a threisgar ar swyddog a oedd yn ceisio gwneud ei waith.

“Dioddefodd y swyddog boen sylweddol i’w wyneb a’i ên, ac anafodd ei ysgwydd a’i lun. Mae’n ffodus nad oedd yr anafiadau a ddioddefodd yn fwy difrifol, ond nid yw hynny’n bychanu’r trais ofnadwy a ddioddefodd.”

Aeth swyddogion ychwanegol a oedd gerllaw i leoliad y digwyddiad er mwyn cynorthwyo’r cwnstabl heddlu, a arhosodd ar ddyletswydd ond a aeth i’r ysbyty i gael ei anafiadau wedi’u hasesu.

Cafodd Parsons ei ffrwyno ac aed ag ef i ddalfa’r heddlu, lle y’i cyhuddwyd o ymosod drwy guro gweithiwr brys.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth 30 Mawrth, lle y plediodd yn euog i’r drosedd. Fe’i dedfrydwyd i 6 mis o garchar.

“Roedd Parsons wedi’i ryddhau o’r carchar yn 2020 yn dilyn euogfarn am gymryd cerbyd gwaethygedig a gyrru peryglus, ac nid oedd wedi’i weld yn yr ardal yn ddiweddar,” meddai’r Ditectif Ringyll Beaton.

“Ni ddylai’r un gweithiwr brys wynebu trais fel hyn ar ddyletswydd, ac rydym yn gobeithio bod y canlyniad yn anfon neges i’r diffynnydd na fydd ei ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn cael ei oddef.

“Diolchaf i bob swyddog a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad ac a gyfrannodd at gael canlyniad cyflym ar gyfer y drosedd ddifrifol hon, a hefyd i’r swyddog a ddioddefodd yr ymosodiad am ei ymrwymiad i’r gwasanaeth drwy aros ar ddyletswydd.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.