Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau unigolyn wedi’u carcharu am gymryd rhan mewn ymgyrch llinellau cyffuriau ar ôl i heroin gwerth dros £40,000 gael ei ganfod mewn fflat yn Sir Gaerfyrddin.
Arestiodd Heddlu Dyfed-Powys Meirion Wyn Pollard a Mackalia Rhoden yn ystod gwarant mewn eiddo yn Llwynhendy fis Chwefror, lle y daethpwyd o hyd i gilogram o heroin.
Aeth swyddogion i’r fflat yn Heol Gwili tua 5y.h. ar 2 Chwefror, lle y rhoddodd Rhoden, 18 oed, heroin o’i phoced iddynt, a chadarnhau bod mwy yn ei bag llaw.
Atafaelwyd bag plastig a oedd yn cynnwys rhagor o bowdwr brown a gwyn o’r bag llaw.
Daethpwyd o hyd i gyfanswm o hanner cilogram o heroin.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: “Arestiwyd Rhoden ar amheuaeth o feddu ar gyffur dosbarth A â’r bwriad o feddu. Dywedodd wrth swyddogion ei bod hi wedi’i hanfon i Lanelli i werthu cyffuriau gan ddyn o ardal Birmingham.
“Ychwanegodd y datganiad arwyddocaol hwn i’n hamheuon bod y warant hon wedi tarfu ar ymgyrch llinellau cyffuriau ar gyfer dod â chyffuriau o Orllewin Canolbarth Lloegr i’w gwerthu yn ardal Dyfed-Powys.
“Atafaelwyd swm sylweddol o heroin. Daethpwyd o hyd i rywfaint o heroin mewn bag plastig, ac roedd y gweddill wedi’i rannu’n 40 lapiad yn barod i’w gwerthu.”
Arestiwyd deiliad y fflat, sef Pollard, sy’n 35 oed, hefyd. Aed ag ef i ddalfa’r heddlu ar gyfer cyfweliad.
Cyhuddwyd y pâr o feddu ar gyffur dosbarth A â’r bwriad o werthu, ac fe wnaethant gyfaddef i hyn yn y llys ar 8 Mawrth.
Ymddangoson nhw yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 22 Mawrth. Dedfrydwyd Rhoden i 31 mis o garchar, a dedfrydwyd Pollard i 4 blynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jones: “Un o flaenoriaethau plismona’r heddlu yw targedu’r broblem genedlaethol barhaus mewn perthynas â grwpiau troseddu trefnedig o ddinasoedd mawr yn dod â chyffuriau dosbarth A i drefi llai i’w gwerthu.
“Bu oddeutu 10 marwolaeth y credir eu bod yn gysylltiedig â gorddosau heroin yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y 12 mis diwethaf, sy’n dangos maint a difrifoldeb y broblem yr ydym yn ei hwynebu.
“Drwy dargedu pobl ac eiddo yr ydym yn credu sy’n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau, yr ydym yn aflonyddu ar gangiau llinellau cyffuriau’n rhagweithiol, ac yn ei gwneud hi’n anoddach i’r sylweddau hyn, sy’n medru achosi marwolaethau, gael eu prynu a’u defnyddio.
“Hoffwn sicrhau’r gymuned y byddwn yn parhau â’n hymdrechion i dargedu’r unigolion hyn.”
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Jolene Mann: “Sicrhawyd y canlyniad cadarnhaol hwn diolch i ymdrechion amrediad o adrannau a gydweithiodd er mwyn mynd i’r afael â defnyddio a chyflenwi cyffuriau.
“Gobeithiwn fod hyn yn sicrhau trigolion Llwynhendy mai diogelwch eu cymuned yw ein blaenoriaeth.”
Rhyddhawyd trydydd person a arestiwyd yn ystod y warant. Ni chymerir unrhyw gamau gweithredu pellach yn ei erbyn.