Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyllwr mynych wedi’i garcharu ar ôl twyllo bwcïod yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro drwy ddod yn ffrind i arianwyr a’u drysu.
Roedd Jason Haddigan mor gyfarwydd â thwyll, yr oedd hyd yn oed wedi ysgrifennu llyfr o’r enw “How and Why I Conned the Bookies”.
Er ei fod wedi dianc o’r wlad ar ôl cyflawni’r sgamiau yn Rhydaman ac Arberth, sicrhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddigon o dystiolaeth yn ystod ymchwiliad penderfynol i gyhuddo’r dyn 49 oed â chwe trosedd.
Dywedodd y Cwnstabl Jade Probert, swyddog yr achos: “Roedd hwn yn ymchwiliad hir a chymhleth iawn, a welodd ymholiadau’n cael eu cynnal dros gyfnod o 18 mis.
“Mae Haddigan yn dwyllwr adnabyddus a gafodd ei wahardd rhag mynd mewn i bob bwci yng Nghymru a Lloegr, ac mae hyd yn oed wedi ysgrifennu llyfr am y ffordd y twyllodd staff.
“Ei dechneg oedd dod yn ffrind i arianwyr mewn siopau betio, gan ennill eu ffydd. Yna, byddai’n sgriblo ar slipiau betio a’u ffugio’n fwriadol, ac yn defnyddio ei wybodaeth o’r gweithdrefnau a’r offer maen nhw’n defnyddio i dwyllo’r ariannwr â thechneg gyfrwys i newid y slip gwreiddiol am un ffug.”
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad gan siop fetio yn Rhydaman ar 27 Mai 2019 yn adrodd am amheuon bod yr ariannwr wedi’i dwyllo gan ddyn a honnodd ei fod wedi ennill £1,600.
Dywedodd y galwr bod y dyn wedi gosod ‘bet araf’ ar ras cŵn ac wedi treulio’r prynhawn yn y siop, gan ddod yn ffrind i’r ariannwr.
Ar ddiwedd y ras, honnodd nad oedd yn cofio pwy yr oedd wedi betio arno.
Yna, rhoddodd yr ariannwr y slip betio gwreiddiol iddo, ac fe ddiwygiodd y slip, gan nodi’r rhifau buddugol arno.
Rhoddwyd £1,000 iddo a gofynnwyd iddo ddychwelyd y diwrnod canlynol ar gyfer y £600 a oedd yn weddill.
Dywedodd Cwnstabl Probert: “Yna, defnyddiodd Haddigan dechneg debyg mewn siop yn Arberth, lle y gosododd fet ar ras geffylau mor agos â phosibl i gychwyn y ras.
“Ychydig funudau’n ddiweddarach, gofynnodd am gael ei slip betio yn ôl, gan honni ei fod wedi anghofio rhifau’r ceffylau – ond erbyn hyn, gwyddai rifau’r ceffylau a llenwodd y slip â’r buddugwyr.
“Rhoddodd hyn enillion o dros £1,700 iddo.”
Ar ôl cyflawni’r ddwy drosedd, gadawodd Haddigan y wlad a theithiodd i Iwerddon.
Dychwelodd i Loegr yn ddiweddarach, ond profodd yn anodd dod o hyd iddo. Fe’i harestiwyd yn y pen draw ym Maes Awyr Gatwick wrth iddo geisio gadael y wlad gan ddefnyddio enw ffug.
Dywedodd Dylan Davies, Rhingyll Rhydaman: “Drwy gydol cyfweliadau’r heddlu, gwrthododd Haddigan wneud unrhyw sylw, a arweiniodd at lawer iawn o waith ar gyfer swyddogion ymchwilio.
“Fodd bynnag, diolch i’w hymrwymiad – yn arbennig Cwnstabl Jade Probert – sicrhawyd digon o dystiolaeth i’w gyhuddo â chwe throsedd. Cyfaddefodd i’r troseddau hyn o’r diwedd yn y llys.”
Cyhuddwyd Jason Haddigan â dau achos o dwyll, dau achos o dwyll drwy gynrychiolaeth dwyllodrus, a dau achos o dorri gorchmynion gwrthgymdeithasol.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Mawrth, lle y rhoddwyd dedfryd carchar llai o 21 wythnos iddo am ei ble euog.