Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:55 02/03/2021
Mae ymgyrch ar y cyd wedi’i chynnal ym Mannau Brycheiniog er mwyn mynd i’r afael â phobl sy’n defnyddio beiciau cwad allffordd yn y parc cenedlaethol. Mae chwe dyn wedi derbyn dirwy am deithio i’r ardal.
Daeth heddluoedd Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent, a wardeniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, at ei gilydd ddydd Sul 28 Chwefror er mwyn ymateb i bryderon gan y gymuned o gwmpas y defnydd o feiciau cwad.
Dywedodd yr Arolygydd Gwyndaf Bowen o Heddlu Dyfed-Powys: “Cynhaliwyd Ymgyrch Rover mewn ymateb i bryderon cymunedol ynghylch beiciau cwad.
“Gan ddefnyddio rheoliadau iechyd cyhoeddus, traffig y ffyrdd a throseddol, rhoddom gyngor i aelodau o’r cyhoedd ac erlyniadau i’r rhai a gafodd eu dal yn torri’r gyfraith.
“Hoffem ddiolch i Wardeniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ynghyd â gwirfoddolwyr a phreswylwyr, a helpodd yr heddlu i nodi tramgwyddau a chymryd camau priodol.
“Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gynnal ymgyrchoedd tebyg mewn lleoliadau gwahanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth inni weithio i fynd i’r afael â’r broblem hon.”
Gyda chymorth Cwnstabliaid Gwirfoddol, gwelodd yr ymgyrch 29 swyddog ac aelod staff yn gofalu am dir o gwmpas Chwarel Trefil.
Rhoddwyd hysbysiadau cosb benodedig Covid-19 i chwe dyn o ardal Cwfaint am dorri’r rheoliadau ar gyfer aros gartref, â hwythau wedi teithio i Chwarel Trefil. Eu bwriad oedd defnyddio beiciau sgrialu yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae swyddogion yn annog pobl i gofio nad oes hawl teithio’n ddiangen wrth i’r pandemig Covid-19 fynd rhagddo, ac nid oes hawl gyrru i leoliad ar gyfer ymarfer corff.
Ychwanegodd y Rhingyll Matt Thomas: “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd ymagwedd ar y cyd â Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan gnewyllyn bach o bobl sy’n defnyddio cerbydau allffordd yn Chwarel Trefil.
“Bydd aelodau o’r Unedau Bro a Phlismona’r Ffyrdd yn parhau i gynnal ymgyrchoedd drwy’r flwyddyn, gan dargedu gweithgareddau allffordd anghyfreithlon, a byddwn yn defnyddio pwerau’r heddlu i atafaelu cerbydau os oes angen.”
Mae’n anghyfreithlon reidio beiciau cwad, beiciau tair olwyn neu feiciau gwlad, a rhai cerbydau dwy olwyn eraill, mewn parciau cyhoeddus neu dir sy’n eiddo cyhoeddus heb ganiatâd gan yr awdurdod lleol. Gall y gweithgareddau hyn arwain at atafaelu cerbydau, dirwyon ac ymddangosiadau llys.
Dywedodd SCCH Billy Dunne: “Fy nghyngor ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu gyrru oddi ar y ffordd fyddai gwirio ei fod yn gyfreithlon cyn ichi gychwyn eich taith.
“Medrwch ddefnyddio’ch cerbyd ar gilffyrdd sydd ar agor i bob traffig, neu lonydd gwyrdd, fodd bynnag, rhaid bod gennych chi’r yswiriant cywir, MOT a threth, yn ogystal â phlatiau rhif o’r maint cywir.
“Ni allwch yrru ar dir cyffredin, tir mynediad cyhoeddus, tir sydd ddim yn rhan o ffordd, llwybrau coedwig, marchlwybrau, llwybrau troed neu gilffyrdd cyfyngedig.”
Mae’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan y broblem ar dir cyffredin hefyd yn ran sylweddol o helpu’r heddlu i fynd i’r afael â’r broblem o yrru allffordd.
Roedd pryderon un ffermwr yn ymwneud â gyrru allffordd yn aflonyddu ar dda byw, gydag anifeiliaid yn cael eu gorfodi i adael eu mannau pori oherwydd y sŵn gormodol.
Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mewn ymateb i adroddiadau cynyddol am yrru allffordd anghyfreithlon ar draws y parc cenedlaethol, mae’r ymgyrch ar y cyd hon yn allweddol ar gyfer tynnu sylw at y problemau mae’n achosi i’n tirwedd bregus.
“Nid yn unig y mae’r sŵn yn aflonyddu ar yr heddwch, ond mae’n arwain at golli cynefinoedd a disodli rhywogaethau megis adar sy’n nythu ar y tir hefyd.
“Gall yr erydiad a’r difrod a achosir gan yr unigolion hyn, yn enwedig adeg y tywydd gwlyb, gymryd blynyddoedd i atgyweirio.”
Ychwanegodd Cwnstabl Mike Perry, Swyddog Dinasyddion Mewn Plismona a Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Tîm Diogelwch Cymunedol Morgannwg Ganol ym Merthyr: “Mae’r gweithgareddau hyn yn dinistrio ein tirwedd. Yr unig ffordd i’w gwarchod yn y Bannau yw cydweithio mewn ymagwedd gydlynol.”
Mae gweithgarwch pellach wedi’i drefnu yn yr ardal, â’r ymagwedd ar y cyd yn parhau.
Dywedodd Cwnstabl Estelle Davies o Heddlu Gwent: “Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus, a gweithredodd fel atalydd ar gyfer pobl sydd â diffyg ystyriaeth tuag at y gyfraith a’r gymuned gyffredinol.
“Mae Heddlu Gwent yn gobeithio parhau â’r ymagwedd hon gyda’n cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru yn y dyfodol agos.”