Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr ydym yn parhau i chwilio am Susan Smith, sydd ar goll.
Gwelwyd Susan ddiwethaf am 1.30 o’r gloch brynhawn ddydd Sadwrn 27 Chwefror 2021, yn cerdded ym Mhentref Gwyliau Bae Caerfyrddin yn ardal Cydweli. Mae hi’n cerdded ar hyd y traeth yn aml rhwng Llanismel a Glan-y-fferi.
Mae hi tua 5’2″, o gorffolaeth fach ac mae ganddi wallt golau at ei hysgwyddau. Credir ei bod hi’n gwisgo jîns du, siaced gnu ddu ac esgidiau cerdded glas tywyll a llwyd.
Dywedodd y Rhingyll Jess Jones: “Yr ydym yn parhau i chwilio heddiw gyda chymorth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n chwilio’r aber. Bydd y gymuned hefyd yn gweld swyddogion heddlu arbenigol yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ.
“Yr ydym yn gofyn i breswylwyr Cydweli, Llanismel, Glan-y-fferi a’r cyffiniau i edrych mewn unrhyw adeilad allanol neu sied rhag ofn ei bod hi wedi ceisio lloches. Yr ydym hefyd yn gofyn i’r cyhoedd wirio ac adolygu eu camerâu TCC preifat, clychau drws fideo, peiriannau GoPro, darnau ffilm camera cerbyd neu unrhyw ffynhonnell fideo arall a allai ddangos Susan yn yr ardaloedd a nodir uchod neu’r cyffiniau rhwng 1.30y.h. a 10.00y.h. ddydd Sadwrn 27 Chwefror.”
Gofynnir i unrhyw un sydd wedi gweld Susan, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu â’r chwiliad, i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys, gan ddyfynnu cyfeirnod 285 dydd Sadwrn 27 Chwefror.
Gellir cysylltu â’r heddlu
ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/,
drwy anfon e-bost at [email protected],
neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun ar y rhif difrys 07811 311 908.