Stamp amser presennol: 06/02/23 06:24:35
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

dyfed-powys-header-logo

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan

Chwilio saith tŷ am gyffuriau yn ystod diwrnod o weithredu yn Sir Gaerfyrddin

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Sir Gaerfyrddin

12:43 23/03/2021

Cynhaliodd yr heddlu saith gwarant gyffuriau yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o ddiwrnod o weithredu a oedd yn targedu troseddwyr sy’n benderfynol o achosi niwed yn eu cymunedau.

Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin ymysg y rhai a oedd yn mynd i’r afael â defnyddio a gwerthu sylweddau anghyfreithlon ledled y sir ddydd Mercher 17 Mawrth, tra bod cydweithwyr yn canolbwyntio ar droseddau traffig, casglu gwybodaeth o gwmpas lladradau cŵn, a’r defnydd o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer cyflenwi cyffuriau.

Dywedodd Mike Ross, Arolygydd Llanelli: “Cymerodd swyddogion o Sir Gaerfyrddin ac asiantaethau partner amrywiol ran mewn diwrnod o weithredu ar gyfer mynd i’r afael ag unigolion sy’n cyflawni gweithgareddau troseddol amrywiol, sy’n achosi niwed i’n cymunedau.  

“Defnyddiodd yr ymgyrch bresenoldeb heddlu amlwg mewn trefi ac ar ffyrdd ar draws y sir er mwyn rhoi tawelwch meddwl drwy ymgysylltu, a phresenoldeb cudd ar gyfer gorfodi.

“Gwelsom ganlyniadau uniongyrchol drwy gydol y dydd, a chasglodd swyddogion wybodaeth a chudd-wybodaeth a fydd yn cynorthwyo o ran cynllunio ymgyrchoedd yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i bob swyddog a gymerodd ran yn yr ymgyrch am eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb ac am eu rhan mewn sicrhau canlyniadau cadarnhaol iawn.”

Cynhaliwyd saith gwarant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ac arestiwyd pedwar unigolyn.

Cynhaliwyd y warant gyntaf mewn cyfeiriad ger canol tref Caerfyrddin. Atafaelwyd tua £2,000 o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Arestiwyd dyn 34 oed ar amheuaeth o feddu â’r bwriad o werthu cyffuriau dosbarth B. Y mae wedi’i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Targedodd timoedd ymateb Llanelli ddau dŷ yn ardal Hendy ar yr un pryd. Atafaelwyd cyffuriau rheoledig a amheuwyd o’r ddau eiddo, ynghyd ag arian. Mae swyddogion wrthi’n cynnal ymholiadau. 

Cynhaliwyd pedwaredd warant mewn cyfeiriad yn ardal Tyisha, Llanelli. Arestiwyd tri unigolyn ar amheuaeth o feddu â’r bwriad o werthu. Cawsant eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Gweithredwyd tair gwarant arall mewn cyfeiriadau yn Rhydaman a Llandeilo.

Cyfeiriwyd dau unigolyn er ystyriaeth ar gyfer cynllun dargyfeiriol am feddu ar ganabis, ac mae ymholiadau’n parhau er mwyn dod o hyd i ddeiliad cyfeiriad yn Llandeilo, lle y daethpwyd o hyd i offer tyfu canabis a chyffuriau dosbarth A, B ac C.

Dywedodd yr Arolygydd Ross: “Cynhaliwyd patrolau dilynol ar y strydoedd lle cynhaliwyd y gwarantau hyn. Yr ydym yn gobeithio bod hyn yn cynnig sicrwydd i’r gymuned ein bod ni’n trin defnyddio a gwerthu cyffuriau’n ddifrifol iawn, ac y byddwn yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei derbyn am y gweithgarwch hwn.”

Cynhaliodd Tîm Plismona Bro Llanelli batrolau ar y cyd â chynrychiolwyr o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, a arweiniodd at ddau gyfeiriad i’r gwasanaeth, tra bod menter Stryd Fwy Diogel wedi’i lansio yn ardal Ger y Llan.

Unodd Timoedd Plismona Bro Llanelli a Chaerfyrddin â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn canolbwyntio ar weithgarwch troseddol o gwmpas gorsafoedd trên a’r rheilffordd rhwng Abertawe, Llanelli a Chaerfyrddin. Arweiniodd hyn at nifer o weithdrefnau stopio a chwilio, gydag un atafaeliad cyffuriau, nifer o gofnodion cudd-wybodaeth yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau posibl, a dau hysbysiad cosb benodedig yn cael eu cyhoeddi am dorri rheoliadau Covid-19.

Cynhaliodd Tîm Plismona Bro Llanelli Wledig ymgyrch gorfodi a chasglu cudd-wybodaeth ar y cyd ag Uned Plismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Adnoddau Naturiol Cymru, Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr, er mwyn cefnogi Ymgyrch Rhinestone – ymgyrch yr heddlu mewn perthynas â lladradau cŵn – ar yr A484 ger Trostre.

Dywedodd yr Arolygydd Ross: “Stopiwyd tua 150 o gerbydau yn ystod y dydd. Atafaelwyd dau gerbyd am fod heb yswiriant, nodwyd sawl trosedd traffig, a chyhoeddwyd sawl hysbysiad gwahardd gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr.

“Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am eu cymorth yn ystod y dydd.”

Edrychodd swyddogion Adnoddau Naturiol Cymru am Drwyddedau Cludwyr Gwastraff Cofrestredig a materion Dyletswydd Gofal ar yrwyr a cherbydau a stopiwyd gan yr heddlu. 

Cynigwyd cyngor ac arweiniad ynglŷn â’r angen i gofrestru fel cludwr gwastraff i nifer o gerbydau.

Credwyd bod un unigolyn yn cludo gwastraff heb ei fod wedi cofrestru i wneud hynny. Ymwelodd Adnoddau Naturiol Cymru â safle gwastraff hefyd, gyda chymorth yr heddlu. Mae Adnoddau Naturiol Cymru’n ymchwilio ymhellach i’r ddau.

Dywedodd Jonathan Jones, Arweinydd Tîm Amgylcheddol Adnoddau Naturiol Cymru: “Yr ydym yn parhau i weithio gyda’n hasiantaethau partner yn ystod diwrnodau gweithredu amlasiantaeth fel rhain, ac rydym yn diolch i Heddlu Dyfed-Powys am eu cefnogaeth barhaus.

“Rôl Adnoddau Naturiol Cymru yn ystod y diwrnod hwn o weithredu oedd cynnal gwiriadau a rhoi cyngor o gwmpas atal a datrys troseddau amgylcheddol.

“Byddwn yn atgoffa’r rhai sy’n cludo gwastraff, neu sydd angen cael gwared arno fel rhan o’u busnes, i sicrhau bod yr unigolyn sy’n cludo’r gwastraff wedi’i gofrestru a bod y gwastraff yn cael ei gymryd i safle awdurdodedig priodol.

“Gall methu â gwneud hynny arwain at berchennog y gwastraff yn cael ei erlyn, yn ogystal â’r cludwr gwastraff anghyfreithlon.  

“Ceir gwybodaeth am bwy sydd angen cofrestru, a sut mae gwneud hyn, yn adran caniatáu gwastraff ein gwefan, neu drwy alw 03000 653000.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.